Gall ffermwyr a choedwigwyr sydd wedi cofrestru gyda’r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd bellach wneud cais ar lein am gymorth ariannol o hyd at 80% ar gyfer cyrsiau hyfforddiant byr wedi'u hachredu sydd ar gael trwy'r rhaglen 'Buddsoddi mewn Sgiliau a Mentora', sef rhaglen ddysgu a datblygiad gydol oes newydd Cyswllt Ffermio.

Mae’r cyfnod ymgeisio cyntaf ar gyfer Blwyddyn 1 ar agor nawr, ac mae’r dyddiad cau ar y 29 Ionawr 2016.  Bydd y cyfle nesaf i ymgeisio am gymorth ariannol ar gael o'r 1 Ebrill hyd y 29 Ebrill 2016, a’r cyfle olaf ar gael o’r 1 Mehefin hyd y 30 Mehefin 2016.

 

Mae’r rhaglen newydd yn cael ei darparu gan Lantra Cymru ar ran Cyswllt Ffermio.  Dywedodd Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, heddiw ei fod yn ffyddiog y bydd y rhaglen newydd yn gweddnewid sgiliau personol yn ogystal â sgiliau busnes nifer o ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru.  Pwysleisiodd mai ar lein yn unig y gellir cyflwyno ffurflenni cais ar gyfer cymorth ariannol a bod proses syml i’w ddilyn yn y lle cyntaf.

“Cyn gallu cyflwyno ffurflen gais ar lein, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen Cyswllt Ffermio newydd ac wedi derbyn eich rhif cofrestru Cyswllt Ffermio unigol.

“Mae'r cam nesaf yn ymwneud â chwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP).  Bydd yr adnodd ar lein hwn yn eich cynorthwyo i gofnodi targedau ar gyfer y tymor byr a'r tymor hir, i edrych ar eich lefel sgiliau presennol ac adnabod unrhyw ofynion hyfforddiant allweddol a chyrsiau a allai helpu eich datblygiad personol," meddai Mr Thomas.

 

Bydd angen i unrhyw un sy’n bwriadu gwneud cais am gymorth ariannol ar gyfer cwblhau cwrs yn ymwneud â defnydd o beiriannau neu offer gwblhau cwrs Iechyd a Diogelwch Cyswllt Ffermio gyntaf.

Mae rhestr o gyrsiau hyfforddiant achrededig Cyswllt Ffermio ynghyd â darparwyr hyfforddiant sydd wedi’u cymeradwyo, gwybodaeth ynglŷn â'r amrywiaeth newydd o gyrsiau e-ddysgu, arweiniad ynglŷn â chwblhau Cynllun Datblygu Personol ar lein a’r ffurflen gais am gymorth ariannol ar gael ar ein tudalennau 'Sgiliau a Mentora'.

Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â'r rhaglen newydd a sut all fod o fudd i chi, yn ogystal â manylion cyswllt eich swyddog datblygu lleol fydd yn gallu rhoi'r gefnogaeth a'r arweiniad sydd arnoch ei angen drwy bori'r wefan.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y