ffa16 1027 1 1 1

Bu ymgeiswyr Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2016 mewn seremoni arbennig yn y Ffair Aeaf eleni yn Llanelwedd, lle gwnaethant gyfarfod Lesley Griffiths, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Cynigiodd y digwyddiad, gyda chynrychiolwyr o nifer o sefydliadau sy’n rhanddeiliaid amaethyddol allweddol yng Nghymru yn bresennol hefyd, gyfle i ymgeiswyr y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig eleni amlinellu eu gweledigaeth am yr hyn y maent yn amgyffred yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i sicrhau diwydiant amaeth cynaliadwy a phroffidiol yng Nghymru ar ôl Brexit.  Seiliwyd yr adroddiad, ymhlith pethau eraill, ar yr hyn yr oedd y grŵp wedi ei ddysgu yn ystod eu taith astudio i’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel yn ddiweddar.

Ar y cyd amlinellodd y ddau ffermwr ifanc Helen Howells o Lanwenog a Rob Hoggins o’r Fenni argymhellion y grŵp oedd yn canolbwyntio ar bum thema allweddol, sef defnydd effeithlon o adnoddau naturiol; gwerthu stori bwyd Cymru, cynyddu’r gallu i brosesu ar gyfer datblygu cynnyrch blaengar; cefnogi olyniaeth i gael diwydiant bywiog, amrywiol a chyrraedd safonau uchel o ran iechyd anifeiliaid.

Ymatebodd y Gweinidog trwy ddiolch i’r grŵp am eu cyfraniad gwerthfawr a rhoddodd anogaeth iddynt gymryd rhan yn holl ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar amaeth a phynciau cysylltiedig. 

“Mae’n bwysig iawn deall barn a safbwynt pawb yn ein diwydiant a bydd eich argymhellion chi yn cael eu hystyried ochr yn ochr â chanlyniadau tasgau tebyg sydd eisoes ar y gweill yn Llywodraeth Cymru a gyda’n rhanddeiliaid. Dyma’r amser i ystyried y risgiau a’r sialensiau sy’n deillio o Brexit, ond hefyd i sicrhau ein bod yn dynodi cyfleoedd newydd ac yn manteisio arnynt.” 

Llongyfarchodd y Gweinidog ‘Ddosbarth 2016’ a dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.

“Daeth Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, sydd wedi cael 125 o fyfyrwyr erbyn hyn, â rhai o’r unigolion mwyaf addawol ac uchelgeisiol sy’n gweithio yn y diwydiant amaeth yng Nghymru heddiw ac yn cyfrannu at ei ffyniant at ei gilydd.  Chi yw dyfodol ein diwydiant ac mae gennyf bob ffydd y byddwn yn clywed mwy am eich llwyddiannau niferus dros y blynyddoedd i ddod.

“Mae 14 mis erbyn hyn ers i’r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gael ei lansio ac mae’n cael effaith sylweddol a diriaethol mewn cymaint o feysydd. Mae’n cyflawni ei rôl allweddol wrth helpu ein diwydiant i ddod yn fwy cynaliadwy a gwydn, a hynny yng nghanol yr ansicrwydd sy’n deillio o ganlyniad refferendwm yr UE.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu