1 Mai 2018

 

Mae Cyswllt Ffermio’n cydlynu cynllun dan arweiniad diwydiant i fynd i’r afael yn uniongyrchol â llygredd o amaethyddiaeth yng Nghymru. 

Mae is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol – corff sy’n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Undebau Ffermio ac eraill eisiau ymrwymiad gan ddiwydiant i ddileu llygredd er mwyn adlewyrchu safonau uchel ym myd amaeth yng Nghymru ac mae wedi lansio ymgyrch ‘Lleihau Llygredd Amaethyddol’, sy’n cael ei chydlynu gan Cyswllt Ffermio. 

Eglurodd Sara Jenkins, Rheolwr Datblygu Menter a Busnes, y bydd Cyswllt Ffermio’n arwain ymgyrch i gynnig cymorth, cyngor a chyfarwyddyd i ffermwyr, er mwyn lleihau nifer yr achosion o lygredd yng Nghymru. 

“Bydd yr ymgyrch newydd yn canolbwyntio ar gefnogi ffermwyr i gymryd camau i atal llygredd drwy wella’r ffordd y mae tail, slyri a phriddoedd yn cael eu rheoli a thrwy ddefnyddio llai o gemegau fel plaladdwyr,” eglurodd. 

“Yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru), bydd atal llygredd o amaethyddiaeth yn dod â budd sylweddol i fusnesau fferm a’r gymuned ehangach a’r economi sy’n dibynnu ar amgylchedd dŵr iach.’’ 

Mae Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, yn cynnig nifer o wasanaethau sydd ar gael i helpu ffermwyr. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys y gwasanaeth cynghori sy’n cynnig cymhorthdal o hyd at 80% i ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gyfer Cynlluniau Rheoli Maetholion neu Gynlluniau Rheoli Maetholion wedi’u hariannu’n llawn fel cyngor grŵp. 

Mae cyngor hefyd ar gael yn unigol neu ar sail grŵp ar gyfer cynllunio rheoli a stori slyri a thail fferm, seilwaith fferm yn cynnwys gwahanu dŵr glân a dŵr budr, slyri, tail a storio silwair a nifer o agweddau technegol eraill. 

Mae dulliau cefnogi eraill yn cynnwys; gwasanaeth mentora un-i-un, lle gall ffermwyr gael hyd at 22.5 awr o fentora gan ffermwr profiadol arall sydd wedi delio â phroblemau a chyflwyno atebion newydd ar eu fferm, a chymorthfeydd cynllunio, lle gall ffermwyr gael mynediad at werth awr o gyngor am ddim gan arbenigwr cynllunio. 

“Buaswn yn annog pob ffermwr yng Nghymru i ystyried eu heffaith bosibl ar yr amgylchedd a thrafod eu gofynion unigol gyda’u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol, fydd yn gallu eu cyfeirio at y cymorth mwyaf priodol.” 

“Bydd manteisio ar y gwasanaethau hyn yn dod â budd sylweddol i fusnesau fferm a’r gymuned ehangach a’r economi sy’n dibynnu ar amgylchedd dŵr iach,” meddai Sara Jenkins. 

Yn fwy penodol, bydd ffermwyr sydd â thir o gwmpas 28 o gyrsiau dŵr â blaenoriaeth a restrwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn rhaglen gymorth trwy Cyswllt Ffermio i wneud gwelliannau i ansawdd dŵr ffres yn ystod y misoedd nesaf. 

Bydd y cynllun yn cysylltu â phrosiectau arfer gorau sydd eisoes yn cael eu cynnal ar Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio, Ffermydd Arddangos a Safleoedd Ffocws;  mae’r rhain yn cynnwys technegau ar gyfer cynhyrchu, storio a bwydo silwair a delio ag elifiant yn yr uned laeth ar Safle Arloesedd Gelli Aur a gwella draeniad tir ar Fferm Arddangos Tyreglwys fel bod gwartheg yn postio llai a bod strwythur y pridd yn gwella. 

O oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â sut i wella ansawdd dŵr, cysylltwch â Chanolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio neu cliciwch yma i gael manylion cyswllt eich Swyddog Datblygu lleol, fydd yn gallu eich arwain drwy’r gwasanaethau.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Mentora yn helpu fferm i newid o gynhyrchu da byw i dyfu grawnwin
28 Mai 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites