Mae Cyswllt Ffermio newydd lansio ymgyrch recriwtio ledled Cymru er mwyn annog merched sy’n gweithio ym meysydd bwyd, ffermio neu goedwigaeth yng Nghymru i ymuno ag un o’i fforymau ‘Merched mewn Amaeth’ rhanbarthol.

Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, y byddai pob cyfarfod yn cynnig cyfle unigryw i ferched sy’n gweithio yn y diwydiant leisio eu barn a dylanwadu ar ddatblygiad y diwydiant amaeth yng Nghymru.   

Bydd Dr. Nerys Llewelyn Jones, sy’n gyfreithwraig ac yn ffermio yn sir Gâr, yn hwyluso’r tri digwyddiad lle bydd yn gobeithio adeiladu ar fomentwm y gweithdai ‘ôl-Brexit’ a hwyluswyd ganddi yn ystod fforwm Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd yn Llanelwedd.  

“Mynegodd dros 60 o fynychwyr yn y digwyddiad hwnnw ddiddordeb mewn ymuno â fforymau rhanbarthol newydd, felly mae gennym ddigon o ddiddordeb i greu rhwydweithiau deinamig, amaethyddol ar gyfer merched yn unig. 

“Bydd hyn yn annog hyd yn oed mwy o ferched sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r sectorau bwyd, ffermio neu goedwigaeth yng Nghymru i ystyried yr opsiynau, i leisio eu barn ac i amlinellu eu blaenoriaethau er mwyn dylanwadu ar yr agenda gwledig yn ystod y cyfnod pwysig hwn, pan fo angen llais cryf ar Gymru,” meddai Mrs Williams.

“Yn y dyfodol, rydym yn bwriadu cynnal cyfarfodydd ar amser ac mewn fformat sy’n addas ar gyfer y merched sy’n cymryd rhan, felly bydd penodi cynrychiolwyr, cytuno ar bynciau trafod neu siaradwyr gwadd a phenderfynu ar fformat ac amlder cyfarfodydd y dyfodol yn gyfrifoldeb i’r mynychwyr.

“Bydd Cyswllt Ffermio yn gweithio’n agos gyda phob fforwm ac yn hwyluso proses er mwyn sicrhau bod deilliannau a barn yn cael eu bwydo’n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru,” meddai Mrs. Williams

Os hoffech chi ymuno â’r rhwydwaith Merched mewn Amaeth newydd, cysylltwch â Carys Thomas ar 01970 631402 neu e-bostio carys.thomas@menterabusnes.co.uk.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites