Bydd potensial cynhyrchu dofednod fel ffrwd incwm ychwanegol ar gyfer busnesau fferm bîff, defaid neu laeth yn cael ei archwilio yn ystod digwyddiad Cyswllt Ffermio.

Bydd Jason Gittins, arbenigwr dofednod ADAS, yn trafod dichonolrwydd sefydlu uned ddofednod fel rhan o fferm dda byw, yn canolbwyntio ar gynhyrchu wyau maes a brwyliaid dan do yn benodol. Gall ffermwyr da byw ddygsu mwy am agweddau ymarferol sefydlu a rhedeg uned ddofednod ynghyd â gofynion isadeiledd. Bydd yr elfennau ariannol a chynllunio sy’n gysylltiedig â sefydlu uned newydd hefyd yn cael eu trafod yn ystod y cyfarfod.

 

A yw cynhyrchu dofednod yn opsiwn ymarferol ar gyfer eich busnes?

Lleoliad: Gwesty’r Celtic Royal, Stryd Bangor, Caernarfon LL55 1AY

Dyddiad: Dydd Mawrth 15fed Tachwedd 2016

Amser: 19:00 – 21:00

 

Croeso cynnes i bawb fynychu’r digwyddiad, a bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu. Byddai’n ddymunol pe gallech archebu eich lle ymlaen llaw. Cysylltwch â Gwawr Llewelyn Hughes ar 07896 996841 neu e-bostiwch gwawr.hughes@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae bwydo silwair meillion yn lleihau costau yn y cyfnod cyn ŵyna
22 Ionawr 2025 Mae silwair meillion coch a gwyn o ansawdd uchel
Dirprwy Brif Weinidog yn llongyfarch enwebeion Gwobrau Lantra Cymru mewn seremoni yn dathlu rhagoriaeth mewn datblygu sgiliau a dysgu gydol oes
16 Ionawr 2026 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
E-fwletin Garddwriaeth gan Cyswllt Ffermio - rhifyn Gaeaf 2025