16 Gorffennaf 2018

 

Mae'r naw mis diwethaf wedi gweld tywydd eithafol sy'n creu heriau o ran bwydo da byw. Mae cynhyrchiant llaeth yn îs oherwydd bod llai o fwyd ar gael ac yn sgîl hynny gwelir dirywiad yng nghyflwr corff y gwartheg wrth iddynt droi at eu cronfeydd wrth gefn i ad-ennill y diffyg. Mae hyn yn effeithio ar ffrwythlondeb o ganlyniad. Mae'r nifer o heriau eraill yn cynnwys mwy o alw am ddŵr a gallu systemau ffermwyr i ymdopi, yn ogystal â ffynhonellau dwr naturiol yn sychu. Mae ffermwyr mewn nifer o sefyllfaoedd yn cael eu gorfodi i fwydo porthiant gaeaf nesaf neu prynu bwyd i fewn, ac mae hyn yn cael effaith hirdymor ar broffidioldeb a pherfformiad busnes.

Gall ffermwyr leihau'r heriau hyn yn gyntaf trwy ddifa neu sychu cynhyrchwyr isel neu gallant ystyried godro dair gwaith bob deuddydd (16 awr). Gwnaeth llawer o ffermwyr hyn yn llwyddiannus yn ystod cyfnod oer iawn y gaeaf wrth i'r parlwr rewi bob pen i’r dydd.

Yn gyntaf, dylier nodi bydd godro unwaith y dydd yn golygu lleihad mewn cynnyrchiant llaeth. Ond os ydych yn ystyried sychu cyfran fawr o'ch buches oherwydd diffyg porthiant, neu yn gweld newid sylweddol yng nghyflwr eu cyrff, gall y golled yng nghynnyrch llaeth fod yn llai costus na bwydo i ennill cyflwr nes ymlaen neu gyfnodau lloia estynedig oherwydd diffyg ffrwythlondeb.

Mae'n werth nodi gall godro unwaith y dydd gael effaith negyddol ar gyfrifon celloedd somatig ac achosion mastitis. Byddai’n werth gofyn os y gall cynhyrchwyr fforddio i gyfraddau celloedd somatig eu tanc llaeth gynyddu o 20-40,000/ml? Dylid gwirio bandiau talu cyfrif celloedd somatig (SCC) contract llaeth hefyd. Ni argymhellir bod buchesi sy'n rhedeg cyfrif celloedd somatig cyfartalog uwchben 150,000 newid i odro unwaith y dydd oni bai bod gwartheg ȃ chyfri uchel yn cael eu sychu a bod y contractau llaeth yn caniatáu i'r cynnydd yma ddigwydd heb gosb. Gall godro unwaith y dydd tra bod gwartheg dan dô arwain at fuchod yn gollwng llaeth ar giwbiclau. Golyga hyn bod y system yn fwy addas i wartheg sy'n lloia yn y gwanwyn ar system bori mwy estynedig neu ar system fewnbwn is.

Gall lleihau pa mor aml rydych yn godro leihau straen gwres a gwariant ynni wrth gerdded yng ngwres hwyr y prynhawn. Mae hyn yn arbennig o berthnasol pan fod platfform pori wedi'u hymestyn oherwydd cyfraddau isel a pan fod gwartheg yn cerdded mwy o bellter.

Does dim rhaid i ffermwyr gadw'n gaeth at seibiannau 16 awr 3 gwaith o fewn deuddydd. Gallant ddewis unrhyw gyfnod rhwng 14 a 18 awr er mwyn addasu i argaeledd staff.


Mae godro unwaith y dydd wedi dangos i bod hi’n bosib i wella sgor cyflwr y corff, gan felly leihau gofynion porthiant yn ddiweddarach yn y llaethiad. Ar ffermydd a wnaeth addasu i’r system yma yn ystod hafau sych, gwelwyd effaith gadarnhaol iawn ar gyflwr y fuches, llai o ofyn am borthiant a cynnydd mewn cyfraddau cenhedlu. Mae wyth buches sy'n gweithio ar brosiect llaeth godro unwaith y dydd gyda Theagasc yn Iwerddon yn adrodd am gyfartaledd o 89% o wartheg yn lloua mewn bloc o 6 wythnos gyda chyfradd gyfnewid gyfartalog o 20%.

Gellid ystyried godro unwaith y dydd gyda'r math iawn o fuwch, system ac amgylchiadau fel newid defnyddiol i oresgyn amodau eithafol ac fel rhan o newid cyfanwerth hir dymor o ran sut mae'r busnes yn gweithredu.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o