Adroddiad Diwedd Prosiect Halghton Hall: Deall stoc carbon fferm cig coch
Prif negeseuon
- Roedd cymedr deunydd organic y pridd yn amrywio o 4.3% i 8.1% ar gyfer y 50 cm uchaf o’r pridd yn y caeau a samplwyd.
- Roedd stoc carbon y pridd yn y 50 cm uchaf o bridd yn amrywio rhwng 75.5 t/ha a 132.0 t/ha ar gyfer yr holl gaeau a samplwyd ar y fferm.
Cyflwyniad
Mae gan systemau amaethyddol y gallu i atafaelu carbon o’r atmosffer. Mae hyn yn darparu cyfle i wrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir ar ffermydd. Gall priddoedd fod yn suddfan carbon (atafaelu carbon) neu ffynhonnell (rhyddhau carbon) yn ddibynnol ar nifer o ffactorau, megis defnydd tir, ymarferion rheolaeth, hinsawdd a math o bridd. Gall mesur a monitro manwl cynnwys carbon o fewn priddoedd ddarparu ffigyrau defnyddiol ar gyfer canfod newidiadau dros amser, a gallu’r fferm i gyrraedd allyriadau Sero Net yn y pen draw. Gall hefyd helpu ffermwyr i ddeall pwysigrwydd rheoli priddoedd mewn modd a fydd yn cael effaith bositif ar iechyd y pridd, actifedd microbaidd, cyflenwad maetholion, a chynhyrchiant cnydau/porfa.
Amcan y prosiect
Amcan y prosiect oedd darganfod stoc carbon y pridd mewn caeau amrywiol ar y fferm. Gall y data manwl a gasglwyd fel rhan o’r prosiect hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer darparu mewnwelediad i stociau carbon priddoedd yn bresennol ar draws gwahanol gaeau o fewn system ffermio. Hefyd, i ddangos sut y mae stoc carbon pridd yn gallu amrywio o fewn system fferm unigol, yn ddibynnol ar y defnydd tir a’r ymarferion rheolaeth.
Methodoleg
Casglwyd data manwl ar nodweddion y pridd o fewn caeau glaswellt ac âr y fferm drwy sganio dargludedd y pridd gan Precision Decisions. Dangosodd hyn raddau’r amrywioldeb o fewn caeau, fel y gwelir yn Ffigyrau 1 a 2.
Ffigwr 1. Data sganio dargludedd pridd ar gyfer y tir âr (dargludedd bas – cynrychioli’r amrywiant yn y 50 cm uchaf o bridd).
Ffigwr 1. Data sganio dargludedd pridd ar gyfer y glaswelltir (dargludedd bas – cynrychioli’r amrywiant yn y 50 cm uchaf o bridd).
Defnyddiwyd y data hwn ar gyfer darganfod lleoliadau ar gyfer samplu pridd o fewn cyfran o gaeau’r fferm. Samplwyd cyfanswm o naw cae (math/rheolaeth cae wedi’i amlinellu yn Nhabl 1).
Tabl 1. Caeau a ddewiswyd ar gyfer samplu pridd.
Llythyren/rhif cae |
Math/rheolaeth pridd |
A |
Cae âr, wedi’i aredig ac mewn gwenith yn flaenorol, glaswellt i ddod |
B |
Glaswellt wedi’i ail-hadu yn 2019, cae âr am bum mlynedd yn flaenorol cyn ei aredig |
C |
Cae glaswellt ers 2016 |
F |
Cae glaswellt ers 2018 |
5 |
Cae gwair, heb ei ail-hadu o fewn cof |
6 |
Cae wedi’i ail-hadu yn 2017 (aredig) mewn ymgais i sychu’r cae |
7 |
Wedi’i ail-hadu yn 2021 |
10 |
Cae pori yn unig |
11 |
Cae pori parhaol, heb ei ail-hadu o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf |
Casglwyd samplau pridd craidd a samplau dwysedd swmp i ddyfnder o 50 cm (sampl 0-10 cm, sampl 10-30 cm, sampl 30-50 cm) lle bo’n bosibl ar gyfer ardaloedd penodol o fewn bob cae. Dadansoddwyd y samplau craidd ar gyfer cynnwys deunydd organig (SOM) y pridd (%), a droswyd i roi ffigwr ar gynnwys deunydd organic carbon (SOC) y pridd (%). Fe wnaeth y sampl dwysedd swmp pridd ddarparu ffigwr ar gyfer màs y pridd fesul uned cyfaint. Defnyddiwyd y canlyniadau i amcangyfrif stoc carbon y pridd mewn tunelli fesul hectar (t/ha) ar gyfer bob cae penodol.
Allbynnau
Mae’r SOM (%) cyfartalog o’r caeau a ddewiswyd ar gyfer pob dyfnder samplu wedi’i gyflwyno yn Nhabl 2. Fel y gwelir yn Nhabl 2, roedd y SOM yn lleihau gyda dyfnder pridd cynyddol.
Tabl 2. Deunydd Organig Pridd cyfartalog (%) o’r caeau a ddewiswyd ar gyfer pob dyfnder samplu.
|
A |
B |
C |
F |
5 |
6 |
7 |
10 |
11 |
0-10 cm |
6.8 |
6.7 |
8.4 |
4.9 |
11.9 |
8.7 |
9.5 |
12.5 |
9.9 |
10-30 cm |
4.9 |
5.9 |
6.7 |
4.4 |
6.3 |
8 |
6.3 |
7.8 |
6.2 |
30-50 cm |
3.0 |
3.4 |
5.2 |
3.7 |
3.4 |
4.1 |
3.3 |
4.0 |
2.6 |
Yn Nhabl 3, rydym yn cyflwyno stoc carbon pridd cyfartalog (t/ha) y caeau a ddewiswyd ar y fferm ar gyfer pob dyfnder samplu, yn ogystal â’r cyfanswm ar gyfer 0-50 cm. Nid yw hi wastad yn bosibl cael sampl 30-50 cm mewn rhai caeau ar rhai ffermydd oherwydd diffyg dyfnder pridd. Mae hyn yn adlewyrchol o’r priddoedd ar nifer o ffermydd Cymru, a bydd yn amlwg yn effeithio ar ffigyrau cyfanswm stoc carbon.
Tabl 3. Stoc carbon y pridd cyfartalog (t/ha) o’r caeau a ddewiswyd ar gyfer pob dyfnder samplu a chyfanswm y stoc carbon ar gyfer proffil pridd 0-50 cm pob cae. Mae’r holl ffigyrau wedi’u talgrynnu i 2 bwynt degol (gan gynnwys y cyfanswm, sydd yn egluro’r gwahaniaeth o 0.2 rhwng dyfnderoedd samplu a’r cyfanswm mewn rhai achosion).