19 Ebrill 2023

 

Bydd dathlu rôl ymchwil ar y fferm a gynhelir ledled Cymru i groesawu syniadau a chyfleoedd newydd dan sylw mewn digwyddiad allweddol yn y diwydiant ym mis Mai. 

Bydd ffermwyr ac arbenigwyr diwydiant yn cwrdd yn Neuadd Gregynog, ger y Drenewydd ar 5 Mai i glywed gan y rhai sydd wedi bod yn rhan o raglen Prosiect Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf, i archwilio a thrafod syniadau newydd a sut y gellir eu croesawu ar ffermydd Cymru.

Dywedodd Rheolwr EIP yng Nghymru, Owain Rowlands fod datblygu ffyrdd newydd o weithio yn bwysicach nawr nag erioed gyda phwysau yn ymwneud â chynyddu costau mewnbynnau, targedau sero-net a cholli bioamrywiaeth.

“Mae'r sector amaethyddol yn wynebu newidiadau a heriau cyson ond mae'n bwysig sylweddoli y gall y rhain ddod â chyfleoedd i ddatblygu syniadau a ffyrdd newydd o weithio,” meddai.

“Byddwn yn edrych yn ôl dros lwyddiant rhaglen EIP yng Nghymru a ariannodd 46 o brosiectau ar y fferm, gan weithio gyda dros 200 o ffermwyr ledled Cymru i ymchwilio i amrywiaeth o bynciau gwahanol gan gynnwys pridd a glaswelltir, iechyd anifeiliaid, bioamrywiaeth, ansawdd aer a dŵr, storio carbon a geneteg.”

Mae EIP yng Nghymru, meddai Mr Rowlands, wedi dangos pa mor bwysig yw hi i ffermwyr gydweithio'n agos ag eraill yn y sector amaethyddol.

“Mae ein digwyddiad yn gyfle i ddod at ein gilydd a chlywed straeon llwyddiant prosiectau,” ychwanegodd.

Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys trafodaethau panel rhyngweithiol ar arferion ffermio cynaliadwy, technolegau amaethyddol, iechyd a lles anifeiliaid a chynhyrchu garddwriaethol, dan arweiniad gwyddonwyr, milfeddygon, arbenigwyr a ffermwyr.

Bydd y rhai sy'n mynychu yn cael cyfle i lunio ymchwil yn y dyfodol drwy ddweud eu dweud ar sut ddylai'r ymchwil hwnnw edrych.

Mae siaradwyr eraill yn cynnwys y ffermwr o Bowys, Keri Davies, Fferm Glwydcaenewydd, sy'n treialu newidiadau mewn arferion amaethyddol gyda'r nod o wella effeithlonrwydd a gwydnwch ffermydd, a Tim Bennett, cadeirydd y Ganolfan Arloesedd a Rhagoriaeth mewn Da Byw (CIEL).

 

Bydd y digwyddiad yn rhedeg o 9:30-16:00

Am fwy o fanylion, cliciwch yma.

Mae’n hanfodol ein bod ni’n derbyn eich RSVP erbyn 28 Ebrill 2023.

Lleoedd cyfyngedig ar gael. 

I archebu eich lle, cliciwch yma, neu ffoniwch 03456 000813.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu