9 Mai 2023

 

Mae Cyswllt Ffermio yn falch o gyhoeddi cynlluniau i gefnogi cofnodi perfformiad mewn diadelloedd defaid Cymreig drwy Raglen Geneteg Defaid Cymru newydd. 

Drwy gydweithio'n agos ag arbenigwyr genetig blaenllaw, Innovis ac AHDB Signet bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd diadelloedd defaid Cymru drwy gynyddu nifer y ffermwyr defaid sy'n cymryd rhan yng ngwelliannau genetig eu diadelloedd.

Mae Cyswllt Ffermio nawr yn chwilio am ddiadelloedd newydd i ymuno gyda’r rhaglen, yn benodol bridiau o ddefaid mynydd ac ucheldir, yn ogystal â diadelloedd pedigri o ddefaid Wyneblas Caerlyr, Lleyn, Romney ac Charmoise yr ucheldir. 

Dywed Gwawr Williams, Pennaeth Geneteg Defaid gyda Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, fod y rhaglen yn cynnig cyfle gwych i ddiadelloedd sydd â phrofiad o gofnodi perfformiad barhau â'u taith wella genetig, yn ogystal â chyfle i ddiadelloedd newydd ddechrau eu teithiau eu hunain. 

“Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau sydd eisoes yn cofnodi perfformiad, neu'n gobeithio dechrau cofnodi, fanteisio ar gymorth Cyswllt Ffermio ym mhob agwedd ar y broses er mwyn cynyddu cynaliadwyedd eu busnes ar gyfer y dyfodol.”

“Gall defnyddio Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVs) fel offeryn i wella nodweddion penodol gael effaith enfawr ar gynhyrchiant y ddiadell. Mae defnyddio'r data a gasglwyd i'w lawn botensial yn caniatáu i ffermwyr wneud penderfyniadau cyfiawn ynghylch ble y gallant wella o fewn eu diadelloedd - gan arwain at fwy o enillion ariannol i'w busnesau”.

Bydd diadelloedd sy'n cymryd rhan yn elwa o gefnogaeth amrywiol drwy gydol y rhaglen ddwy flynedd, gan gynnwys  cymorth ariannol i gynorthwyo casglu data, cyngor ac arweiniad ar osod targedau cyraeddadwy ar gyfer gwella diadelloedd, cyfleoedd i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o fewn y pwnc, yn ogystal â chyfle i fod yn rhan o brosiectau ymchwil arloesol. 

“Bydd gan bob diadell a ddewisir ddangosyddion perfformiad allweddol a chanlyniadau wedi'u diffinio'n glir o'r cychwyn cyntaf fel bod nodau a mecanweithiau clir i fonitro perfformiad y ddiadell, a gwneud addasiadau angenrheidiol drwyddi draw,” meddai Mrs Williams. 

Yn ogystal â chasglu data i wella perfformiad cyffredinol y ddiadell, bydd cyfranogwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil arloesol, gyda'r nod o ddatblygu nodweddion bridio penodol ar gyfer allyriadau methan is ac ymwrthedd llyngyr mewn defaid. 

Elfen hanfodol yn llwyddiant rhaglen trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio yw ei rôl o rannu arfer gorau a rhaeadru gwybodaeth i'r diwydiant ehangach. Trwy raglen o ddigwyddiadau uchel eu proffil ac offer hyrwyddo, gall Cyswllt Ffermio rannu canfyddiadau a chanlyniadau'r gwaith hwn, gan dynnu sylw at ffrydiau gwaith a thechnolegau arloesol newydd ym maes geneteg defaid. 

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ac i ymgeisio, ewch i wefan Cyswllt Ffermio. Mae’r ffenestr ymgeisio yn agor ar ddydd Llun, 8fed o Fai, ac mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno mynegiant o ddiddordeb yn cau am 12yp Dydd Gwener, 9fed o Fehefin. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Anna Bowen appointed to lead the Agri Academy Senior Programme for 2025
30 Ebrill 2025 Mae Anna Bowen wedi'i phenodi'n arweinydd newydd
Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yn Croesawu 12 Fferm Newydd
29 Ebrill 2025 Trwy rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, a
Mae'r frwydr wedi dechrau am le hynod gystadleuol yn yr Academi Amaeth eleni – ai 2025 yw eich blwyddyn chi?
28 Ebrill 2024 Mae gan yr Academi Amaeth, a lansiwyd yn 2012