Rhaglen Geneteg Defaid Cymru

Beth yw Rhaglen Geneteg Defaid Cymru?

Mae Rhaglen Geneteg Defaid Cymru yn becyn cymorth newydd sbon gan Cyswllt Ffermio, sy'n cynnig cymorth technegol ac ariannol, arweiniad a chyngor i ffermwyr defaid i gryfhau perfformiad eu diadell, gwella cynhyrchiant a chynyddu proffidioldeb drwy wella geneteg. 

 

Beth fyddwch chi'n ei ennill drwy gymryd rhan?

  • Dysgwch sut i ddefnyddio Gwerthoedd Genetig Amcangyfrifiedig (EBVs) i wneud y mwyaf o botensial bridio eich diadell, trwy ddewis yn ôl nodweddion allweddol sy'n berthnasol i'ch diadell eich hun. 
  • Lluniwch gynllun gweithredu bridio gydag argymhellion clir ar y camau y dylech eu cymryd i wella ansawdd eich diadell gan gynnwys cofnodi perfformiad a dadansoddi data allweddol. 
  • Cyngor arbenigol i sicrhau bod eich defaid yn gwneud cynnydd genetig, gan sicrhau gwell iechyd y ddiadell a gwell perfformiad economaidd. 
  • Trwy brosiectau arloesol, cyfrannwch at ymchwil arloesol sy'n canolbwyntio ar fridio ar gyfer allyriadau methan is, bridio ar gyfer ymwrthedd i lyngyr, a manteision defnyddio gwerthoedd bridio genomig yn eich diadell yn rheolaidd. 

Strwythur y Rhaglen

Bydd y rhaglen yn cael ei rhannu'n ddwy haen, Haen 1 a Haen 2. Bydd Haen 1 yn cynnwys bridiau defaid mynydd ac ucheldir Cymreig.

Yn ogystal â chymorth wedi'i dargedu ar gyfer bridiau defaid o fewn Haen 1, drwy gynnwys Haen 2, bydd y rhaglen hefyd yn cynnig cymorth i fridiau mamol penodol o fewn y meini prawf cymhwysedd sy'n gyfyngedig i: Lleyn, Romney, Charmoise, ac Wyneblas Caerlŷr. 

Bydd ceisiadau ar gyfer y ddwy haen yn agored i ddiadelloedd sy'n cofnodi ar hyn o bryd yn ogystal â diadelloedd sy'n newydd i gofnodi perfformiad.

Gellir dod o hyd i'r meini prawf cymhwysedd yma.


Beth fydd y rhaglen yn ei gynnwys?

Drwy weithio'n agos gydag arbenigwyr geneteg flaenllaw, Innovis, ac AHDB-Signet, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd economaidd ac amgylcheddol diadelloedd defaid yng Nghymru drwy gasglu a dadansoddi data, yn ogystal ag archwilio arloesedd a gwaith ymchwil arloesol.

Bydd y rhaglen yn cynnwys gwahanol elfennau, gyda'r amcan allweddol o gryfhau'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o gofnodi perfformiad a dewis EBVs i gyd-fynd â gofynion y ddiadell. 

Bydd diadelloedd sy'n cymryd rhan yn cael eu cefnogi i gasglu data perfformiad diadell hanfodol drwy gydol y rhaglen, gyda'r opsiwn o gofnodi â llaw neu ddefnyddio prawf tras DNA. Bydd sganio uwchsain hefyd yn cael ei wneud yn flynyddol ar ŵyn er mwyn asesu dyfnder y cyhyrau a'r braster. 

Bydd un elfen o'r rhaglen yn cynnwys casglu Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer pob diadell, a llunio cynllun gweithredu bridio yn seiliedig ar berfformiad genetig cyfredol, gan werthuso tueddiadau genetig. Bydd y cynllun yn caniatáu i ffermwyr nodi nodweddion i'w gwella, gan eu helpu i ddewis hyrddod ag EBV addas i dargedu gofynion eu diadell.

Elfen arall o'r rhaglen fydd cael mynediad at Becyn Cymorth Cyswllt Ffermio wedi'i deilwra a fydd yn arwain at fynediad at fodel dysgu newydd sbon - 'Yn y Gêr ar gyfer Geneteg'. 

Bydd agwedd 'Yn y Gêr ar gyfer Geneteg' y rhaglen yn cynnig cyngor ac arweiniad i unigolion drwy wahanol ffyrdd, gan gynnwys, er enghraifft, gweithdai, clinigau, digwyddiadau a Dosbarthiadau Meistr. Bydd cyfranogwyr yn gallu cael mynediad at y model yn dibynnu ar lefel eu profiad o fewn gwelliant genetig. 

Bydd y rhaglen hefyd yn archwilio arloesedd a thechnolegau newydd sy'n ymwneud â geneteg defaid. Bydd cyfranogwyr yn cael cynnig cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil arloesol, gyda'r nod o lunio nodweddion i dargedu materion penodol, e.e. gostwng allyriadau methan a lleihau beichiau llyngyr.

Mae y cyfnod ymgeisio wedi cau

Cysylltwch â ni:

Gwydion Owen - Swyddog Geneteg Defaid (Gogledd Cymru)

gwydion.owen@menterabusnes.co.uk/ 07498 055 416

 

Heledd Dancer - Swyddog Geneteg Defaid (Canolbarth Cymru)

heledd.dancer@menterabusnes.co.uk/ 07852 593 541

 

Elan Davies - Swyddog Geneteg Defaid (De Cymru) 

elan.davies@menterabusnes.co.uk/ 07572 167 878