19.06.2024
                  08:30yb - 6:00yh

Mae digwyddiad hynod lwyddiannus Merched mewn Amaeth gan Cyswllt Ffermio yn ôl, ac eleni mae ar daith!

Ymunwch â ni am deithiau unigryw.

Dewch i ymweld â rhai o ffermydd a busnesau gwledig mwyaf llwyddiannus, a chlywed storiâu ysbrydoledig yn uniongyrchol gan entrepreneuriaid benywaidd a theuluoedd sy’n ffermio sy’n eu rhedeg.

Dyma’r hyn y gallwch ei ddisgwyl:

  • Rhwydweithio a Dysgu: Cwrdd â merched o wahanol feysydd amaeth a bywyd gwledig
  • Ymweliadau: Edrych ar ffermydd, mentrau sydd wedi arallgyfeirio a busnesau arloesol
  • Clywed gan yr Arbenigwyr: Cael mewnwelediad gan berchnogion busnes a ffermwyr llwyddiannus
  • Cwrdd â’r Swyddog Datblygu Lleol: Dysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i’ch busnes gan Cyswllt Ffermio

Dyma gyfle i gael eich ysbrydoli, dysgu strategaethau newydd, a chysylltu â merched eraill mewn amaeth.

Ychydig o leoedd sydd ar gael, felly cofrestrwch heddiw!

Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch ar wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch â’r tîm digwyddiadau - fcevents@menterabusnes.co.uk

Y Teithiau