Cyllid arbrofi - gwireddu eich syniad

Oes gennych chi syniad da a allai helpu eich busnes ac Amaethyddiaeth ehangach Cymru i ddod yn fwy cynaliadwy?   

Mae ceisiadau’n awr ar agor am gyllid o hyd at £5,000 i ffermwyr a thyfwyr ddefnyddio tuag at dreial ar y fferm i arbrofi eu syniadau a’u gwireddu.

Mae Cyswllt Ffermio wedi datblygu’r Cyllid Arbrofi, i fynd i’r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol penodol gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb o fewn busnesau amaethyddol wrth warchod yr amgylchedd.

Mae yna lawer o newidiadau ar y gorwel i amaethyddiaeth ac mae nawr yn amser gwych i archwilio syniad a allai fod o fudd i'ch fferm gan ganiatáu i chi fynd i'r afael â phroblemau 'go iawn' neu wirio a yw syniad ymchwil yn gweithio'n ymarferol ar eich fferm.  

 

Sut mae'r cyllid yn gweithio

  • Mae’r cyllid yn agored i unigolion neu grwpiau o hyd at bedwar ffermwr a/neu dyfwyr yng Nghymru sydd wedi nodi problem neu gyfle lleol neu benodol.
  • Bydd prosiectau addas yn anelu at wella effeithlonrwydd cynhyrchu a phroffidioldeb gan ddiogelu'r amgylchedd trwy gyd-fynd â Chanlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy.  
  • Er enghraifft, gallai prosiectau arbrofi ganolbwyntio ar:
    • Dyfu cnydau sy'n lleihau faint o borthiant a brynir i mewn.
    • Cefnogi menter garddwriaeth gydag IPM
    • Gwella bioleg y pridd trwy blannu amrywiol
    • Datgarboneiddio peiriannau
    • Creu cynefinoedd neu/a choetir newydd a gwella rhai presennol
  • Rhaid gweithredu a chwblhau prosiectau llwyddiannus o fewn yr amserlen a nodir ar gais ac ni fydd y cyllid gan Cyswllt Ffermio yn fwy na £5,000 y prosiect (heb gynnwys TAW).Rhaid i bob prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Ionawr 2025.
  • Gellir defnyddio cyllid ar gyfer cymorth technegol, samplo, profi a threuliau rhesymol eraill megis y rhai sy'n ymwneud â llogi offer neu gyfleusterau arbenigol yn y tymor byr sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect. Bydd disgwyl i'r ffermwyr sy'n cymryd rhan ddarparu eitemau megis tir, stoc a hefyd eu hamser heb unrhyw gost i'r prosiect. Ni ellir defnyddio cyllid i brynu caledwedd neu eitemau cyfalaf.
  • Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu gyda chynhyrchwyr eraill yng Nghymru drwy weithio gydag aelod ymroddedig o dîm Cyswllt Ffermio i gynhyrchu adroddiad byr a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth eraill megis digwyddiadau. Bydd angen cynhyrchu adroddiad terfynol ar y cyd ag aelod penodedig o dîm Cyswllt Ffermio ar y prosiect arbrofi cyn talu costau terfynol y prosiect.
  • Gall ffermwyr a thyfwyr wneud cais drwy gwblhau ffurflen gais a fydd yn cael ei hystyried a’i hasesu.

CYMHWYSTER

  • Mae’r cyllid yn agored i unigolion neu grwpiau o hyd at bedwar ffermwr a thyfwyr yng Nghymru
  • Rhaid i fusnesau fferm fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.
  • Noder - Gallwch gofrestru gyda Cyswllt Ffermio drwy gysylltu â’r Ganolfan Wasanaeth ar 03456 000 813.
  • Caniateir i bob busnes ymwneud ag un prosiect yn unig o dan y Cyllid Arbrofi yn ystod cyfnod ariannu y rhaglen Cyswllt Ffermio.
     

Mae y cyfnod ymgeisio wedi cau.

Bydd ffenestri ymgeisio eraill yn ystod Haf a Hydref 2023

Y BROSES YMGEISIO

  • Cwblhewch y ffurflen gais isod.
  • Cymerwch amser i ddod yn gyfarwydd â’r Llawlyfr Arbrofi, bydd hyn o gymorth gyda chynllunio’r prosiect a chwblhau’r ffurflen gais. 
  • Caiff ceisiadau eu hystyried a'u hasesu gan Banel Asesu, a gallant fod yn destun proses gyfweld.
  • Ffenestr ymgeisio – 9am 09/10/2023 – 3pm 20/10/2023 
  • Rhoddir gwybod i ymgeiswyr cyn pen tair wythnos ar ôl i'r ffenestr ymgeisio gau os byddant yn llwyddiannus ai peidio.
  • Bydd taliad yn cael ei wneud o fewn 30 diwrnod i dderbyn y ffurflen hawlio wedi'i chwblhau'n foddhaol a dogfennaeth ategol, anfonebau a derbynebau.

RHAGOR O WYBODAETH

Am ragor o wybodaeth a chymorth gyda chwblhau’r ffurflen gais, cysylltwch â - fctryout@menterabusnes.co.uk
 

Llawlyfr Cyllid Arbrofi:

PDF icon

 

Matrics Sgorio:

 

Datganiad o ddiddordeb:

COSTAU NAD YDYNT YN GYMWYS (RHESTR ANGHYFLAWN)

  • Costau teithio a chynhaliaeth i ffermwyr sy'n cymryd rhan
  • Ar gyfer buddsoddiadau tymor hwy mewn daliadau amaethyddol h.y. prynu anifeiliaid
  • Cyfalaf gweithio neu unrhyw golled ariannol a gafwyd o ganlyniad i gymryd rhan yn y prosiect
  • Unrhyw wariant cyn i’r prosiect a gymeradwywyd ddechrau heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Cyswllt Ffermio
  • Unrhyw gostau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol ac yn unig â chyflawni’r prosiect
  • Costau llafur ac offer eich hun
  • Costau cynnal a chadw neu atgyweirio
  • Tirlunio, gwaith addurniadol, a darparu amwynderau
  • Argyfyngau
  • TAW adenilladwy