Grŵp Llywio Ffermwyr
Mae proses recriwtio ar y gweill i gyflogi 10 ffermwr i helpu i lywio darpariaeth a gwasanaethau rhaglen cymorth amaethyddol flaengar Cymru.
Mewn cyfnod o newid sylweddol i amaethyddiaeth yng Nghymru, mae rhaglen Cyswllt Ffermio yn sefydlu Grŵp Llywio Ffermwyr i wneud popeth o helpu i gynyddu ymgysylltiad â’r gwasanaeth i ddarparu adborth pwysig.
Bydd eu cyfrifoldebau’n cynnwys darparu adborth ar y gwasanaeth i sicrhau ein bod yn cael y ddarpariaeth a chyrhaeddiad gorau posibl ac i ddatblygu strategaethau sy'n hyrwyddo amcanion craidd y rhaglen.
Gofynnir i ffermwyr a rhanddeiliaid y diwydiant enwebu cyd-ffermwr gyda'i ganiatâd ef neu hi.
Mae’r Rhaglen Cyswllt Ffermio newydd yn rhedeg tan 31 Mawrth 2025, cyn i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd gael ei gyflwyno.
Bydd y Grŵp yn cyfarfod pedair gwaith, ar-lein ac wyneb yn wyneb, a bydd llwyfan cyfathrebu pwrpasol i ddarparu adborth a chyfnewid syniadau.
Bydd ffermwyr yn cael eu recriwtio o bob rhan o Gymru ac o wahanol sectorau, lleoliadau demograffig a daearyddol.
Mae’r ffenestr ymgeisio wedi cau.