Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru mewn blynyddoedd blaenorol, dyma ddiwrnod allan gyda gwahaniaeth – diwrnod na fydd unrhyw ffermwr eisiau ei golli!  

 

Pryd: 21 Medi 2023          

 

Ble: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-muallt, Powys, LD2 3SY

 

Beth: Bydd cyfres o brif siaradwyr a chyflwynwyr rhyngwladol yn rhannu eu profiadau a'u safbwyntiau, gan gynnig cymorthfeydd un-i-un, gweithdai a seminarau ar bynciau sy'n ymwneud ag amaeth, gan gynnwys:   

  • Arloesi – ffyrdd mwy effeithlon o weithio sy’n manteisio ar dechnolegau newydd cyffrous  
  • Arallgyfeirio – syniadau newydd a fydd yn eich helpu i gynyddu elw  
  • Da byw – ffyrdd newydd o gryfhau perfformiad a gwella cynhyrchiant
  • Cynaliadwyedd – arbed amser ac arian, cynyddu allbynnau, lleihau eich ôl troed carbon
  • Newid y ffordd rydych chi'n meddwl ac yn gweithio – cymorth, arweiniad, hyfforddiant ac arddangosiadau ymarferol a fydd yn eich paratoi chi a'ch busnes ar gyfer y dyfodol...

Pwy a ddylai fynychu?

Mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r digwyddiad hwn wedi denu 1,000 o ymwelwyr. Rydym am i chi ymuno â ni yn 2023! Rydym hefyd wedi denu dros 90 o arddangoswyr!

Archebwch eich tocyn

Tocynau