Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru

Pwrpas yng Nghymru oedd ariannu prosiectau amaethyddol ledled Cymru oedd yn annog ffermwyr ac eraill sy’n gweithio o fewn y sector i gydweithio. Mae dod a phobl o gefndiroedd ymarferol a gwyddonol yn creu cyfle gwych i fanteisio ar wahanol brofiadau, elwa ar yr wybodaeth ddiweddaraf a chyflwyno syniadau newydd wrth fynd i’r afael a phroblemau.

Rhwng Mai 2017 a Mawrth 2023, mae EIP yng Nghymru wedi ariannu 46 o brosiectau ledled Cymru, gan weithio gyda mwy na 200 o ffermwyr, a nifer o unigolion, busnesau ac academyddion sy’n gweithio ledled y sector amaethyddol.

Mae canlyniadau’r prosiectau wedi cynnig gwybodaeth werthfawr nid yn unig i’r ffermydd dan sylw, ond hefyd i’r diwydiant ehangach. Mae EIP yng Nghymru wedi dangos ei bod yn bwysig i ffermwyr gymryd rhan uniongyrchol drwy dreialu’r ymchwil a gweithio gyda ffermwyr eraill sydd â dulliau a systemau tebyg a gwahanol. Mae yna bob amser ffordd wahanol o wneud rhywbeth, ac mae llawer i’w ddysgu drwy dreialu syniadau arloesol a thechnolegau newydd.