Rydym wedi cael gwybod am Rybudd Pla: Chwilen Datws Colorado yr ydym am eich gwneud chi i gyd yn ymwybodol ohono.

Mae achos o Chwilen Colorado wedi'i gadarnhau yng Nghaint. Nid yw chwilen Colorado yn endemig i'r DU ac mae'n bla cwarantîn ym Mhrydain Fawr. Mae'r achosion yng Nghaint mewn cnwd o datws ac mae larfâu byw wedi’u darganfod, gyda'r cnwd yn dangos arwyddion o ddifrod.

Sylwer: Y rhywogaethau ar gyfer Chwilen Colorado yw'r teulu codwarth sy'n cynnwys y teulu Solanaceae (gan gynnwys planhigion tomato, planhigion wy, pupur, bresych, dail salad, moron y maes, letys, persli, tybaco a thatws).

Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn cynnal gwyliadwriaeth o’r tir ac mae rhaglen ddileu ar y gweill i leihau'r risg o ledaenu’r pla. Mae'r chwilen yn achosi gostyngiad o 20-100% yng nghynnyrch tatws trwy fwydo ar ddail.

Dylai pob tyfwr, ffermwr, proseswyr ac aelodau’r cyhoedd fod yn wyliadwrus am y pla hwn.

Bydd monitro gweithredol trwy gerdded drwy’r cnwd yn helpu i’w ganfod yn gynnar – cadwch lygad am y chwilod lliw melyn/oren llachar gyda deg streipen ddu ar ei chorff (pump ar bob adain), mae fel arfer yr un maint ag ewin bach. Mae'r larfâu yn frown goch ac yn amgrwn.

Rhaid rhoi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am bob canfyddiad o dan Reoliad Iechyd Planhigion - Ffôn: 0300 1000 313 neu
E-bost:
planthealth.info@apha.gov.uk .

Gweler isod ddogfen ategol gan DEFRA sy'n dangos enghraifft o'r cyfnod oedolion a larfa i helpu i'w hadnabod.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o