James Daniel
Enw
James Daniel
Lleoliad
De Orllewin
Prif Arbenigedd
Ymgynghoriaeth busnes gan arbenigo mewn systemau da byw cynaliadwy, proffidiol a mewnbwn isel sy’n caniatáu cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
Sector
Defaid, Bîff a Llaeth
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
Cafodd James ei fagu ar fferm bîff a defaid cymysg ei deulu ac ers 2016 mae wedi gweithio ledled Cymru yn helpu ffermwyr i werthuso eu busnes a rhoi newidiadau ar waith i gyflawni amcanion personol ac amcanion busnes. Mae ganddo brofiad ar draws ystod eang o fathau o bridd, mentrau da byw a strwythurau busnes gan ddod â dealltwriaeth drylwyr o systemau porfa a phori. Trwy ei waith, mae wedi helpu ffermwyr i leihau eu defnydd o borthiant a gwrtaith a brynwyd tra'n gwella cynhyrchiant i gynyddu elw tra'n sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Pan nad yw’n gweithio, mae James yn mwynhau treulio amser yn yr awyr agored a gyda'i wraig a'i ferch.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- Fferm Ddefaid a Bîff Teuluol.
- 8 mlynedd o brofiad fel Ymgynghorydd Fferm yn gweithio ledled Cymru
- Ymgynghorydd Da Byw'r Flwyddyn Farmers Weekly 2022
- BEng (Anrh)
Awgrym /Dyfyniad
“Credaf y gall dull “porfa yn gyntaf” sicrhau bod pawb yn broffidiol a chynhyrchiol wrth wella’r amgylchedd”. James Daniel