31 Gorffennaf 2023

Mae rhwydwaith newydd, Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, yn arwain ar helpu amaethyddiaeth Cymru bontio i ddyfodol sero net gyda’r ffermydd dan sylw’n treialu arloesiadau a thechnolegau newydd yn eu systemau eu hunain. 
Lansiodd Cyswllt Ffermio ei rwydwaith 'Ein Ffermydd' yn swyddogol yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Llun diwethaf (24 Gorffennaf) pan cafodd enw’r 15 fferm eu datgelu.

O Ynys Môn yn y gogledd i Sir Benfro yn y de, maent yn cynnwys ystod amrywiol o systemau, o ffermydd bîff a defaid i ffermydd llaeth a dofednod, ond gydag uchelgais gyffredin i feithrin gwydnwch a chynaliadwyedd yng nghanol hinsawdd sy’n newid.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y ffermydd yn cynnal diwrnodau agored Cyswllt Ffermio i rannu arfer gorau a syniadau newydd sy’n deillio o’u prosiectau ar y fferm a chanlyniadau treialon.

Ymhlith y ffermwyr sydd wedi’u recriwtio mae'r ffermwyr cig coch Rhodri a Claire Jones, sy'n ffermio yn Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn, Meirionnydd.

Mae eu huchelgeisiau wrth ddod yn rhan o rwydwaith Ein Ffermydd yn cynnwys, lleihau eu dibyniaeth ar borthiant a brynwyd a dod o hyd i gymysgedd hadau ar gyfer porfa sy’n gweddu i’w system, tir a hinsawdd.

Mae'n dilyn cyngor a roddwyd iddynt unwaith: “Y cyngor mwyaf defnyddiol a gawsom erioed yw newid os yw'n addas i chi a gwella'r hyn yr ydych yn ceisio'i wneud,'' meddai Rhodri.

Hefyd wedi’u recriwtio i’r rhwydwaith mae’r ffermwyr da byw David, Eryl a Daniel Evans, Tanygraig, Llanbedr Pont Steffan, sydd eisoes wedi gweld manteision defnyddio technoleg gyda system teledu cylch cyfyng, sydd wedi trawsnewid y cyfnod ŵyna a lloia.

Eu nod yw cychwyn ar brosiectau sy'n defnyddio technolegau eraill hefyd, i helpu i ddiogelu eu busnes ar gyfer y dyfodol, ac i leihau costau heb leihau allbwn.

Fel ffermwyr Ein Ffermydd, maes allweddol y mae Sian, Aled a Rhodri Davies, sy’n rhedeg fferm gymysg yn Cwmcowddu, Llangadog, Gogledd Sir Gaerfyrddin am ganolbwyntio arno yw sut y gallant wneud gwell defnydd o dail ieir i leihau eu hanghenion o wrtaith wedi’i brynu.

Mae gwella maeth a ffrwythlondeb eu buches odro yn ddyhead arall.
“Rydym ni hefyd am ganolbwyntio ar gynyddu faint o borthiant rydym ni'n ei dyfu, a'i wneud yn fwy goddefgar i sychder,'' meddai Aled.

Y ffermydd 'Ein Ffermydd' eraill yw: 

  • Chris a Glyn Davies, Awel y Grug, Y Trallwng, De Sir Drefaldwyn (Cig Coch)
  • Marc, Wynn a Bethan Griffiths, Cilthrew, Llansantffraid, Gogledd Sir Drefaldwyn ( Cig Coch )
  • Jeff, Sarah, Enfys a Medi Wheeler, Clyngwyn, Clunderwen, Sir Benfro (Llaeth)
  • Deryl a Francis Jones, Rhyd Y Gofaint, Aberaeron, Gogledd Ceredigion (Llaeth)
  • Robert a Jessica Lyon, Lower House Farm, Llandrindod, Sir Faesyfed (Cymysg )
  • Sarah Hammond a Robert Williams, Glyn Arthur Farm, Llandyrnog, Dinbych (Cig Coch)
  • Dylan, Gwenda a Gwion Roberts, Cornwal Uchaf, Gwytherin, Conwy (Cig Coch)
  • David, Heulwen and Rhys Davies, Moor Farm, Treffynnon, Fflint (Llaeth)
  • Ifan Ifans, Tyddyn Cae, Pwllheli, Gwynedd (Llaeth)
  • Roger a Dyddanwy Pugh, Crickie Farm, Llangors, Aberhonddu (Cig Coch)
  • Gerallt Jones, Graianfryn, Llanfachraeth, Ynys Môn (Cig Coch)
  • Nigel Bowyer a’r teulu, Ty Coch, Brynbuga, Sir Fynwy (Cig Coch) 

Wrth gyflwyno’r ffermydd i’r diwydiant, dywedodd Siwan Howatson, Pennaeth Technegol Cyswllt Ffermio, drwy’r prosiectau a’r treialon a fydd yn cael eu cynnal ar draws y ffermydd sy’n ffurfio rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, mai’r gobaith oedd y bydd ffermwyr ledled Cymru yn cael eu hysbrydoli a’u hannog i roi cynnig ar ffyrdd arloesol o weithio a thechnolegau newydd i gynyddu cynaliadwyedd hirdymor eu busnesau fferm eu hunain.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn