Emyr Jones
Enw
Emyr Jones
Lleoliad
Ceredigion
Prif Arbenigedd
Rheoli busnes ariannol.
Ymgynghorydd cymwys FACTS - cyngor ar reoli gwrtaith a phridd a gwaith cynllunio maetholion.
Meincnodi
Sector
Busnes, Cydymffurfiaeth, Tir Âr a Glaswelltir
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
Mae Emyr wedi bod yn gweithio fel ymgynghorydd amaethyddol ers 17 mlynedd, gan weithio yn rhanbarth De Orllewin Cymru.
Fel ymgynghorydd cymwys FACTS, mae Emyr yn gallu llunio cynlluniau rheoli maetholion ar gyfer busnesau fferm a rhoi cyngor ar bridd a gwrtaith.
Mae Emyr yn paratoi cyfrifon rheoli ar gyfer nifer o gleientiaid rheolaidd.
Wrth gyfuno ei radd mewn Cyfrifeg a Chyllid â’i ddiddordeb mewn amaethyddiaeth, daw Emyr â chyfoeth o wybodaeth am reolaeth ariannol a busnes.
Mae nifer o brosiectau meincnodi o fewn y diwydiant wedi'u cwblhau.
Ymgymerodd Emyr ag ymchwil ar gyfer y Prosiect Llaeth a'r Amgylchedd.
Wrth ei fod wedi gweithio i Cara Ltd am 17 mlynedd, mae gan Emyr wybodaeth helaeth am gynlluniau cymorth gan gynnwys BPS, Glastir a Rheoliadau Llygredd Dŵr.
Mae Emyr wedi rhoi cyngor ar isadeiledd i nifer fawr o gleientiaid mewn perthynas â'r Rheoliadau Llygredd Dŵr newydd.
Gan ei fod yn ffermwr defaid ac yn fab i ffermwr mae'n frwd dros ddatblygiad diwydiant amaethyddol Cymru ac yn rhoi cyngor i ffermwyr.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- BA mewn Cyfrifeg a Chyllid
- Ymgynghorydd cymwys FACTS
- 17 mlynedd o brofiad yn y diwydiant Amaethyddol.
Awgrym /Dyfyniad
“Lleihau cost, ei gadw'n syml a pheidiwch â dilyn ffasiwn.”.