Wendy Jenkins

Enw

Wendy Jenkins

Lleoliad

Ceredigion

Prif Arbenigedd

Ymgynghoriaeth Busnes Amaethyddol
Dadansoddi Perfformiad Busnes
Meincnodi
Cynllunio Olyniaeth
Mentrau ar y Cyd

Sector

Llaeth, Bîff, Defaid, Busnes a Deddfwriaeth

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

30 mlynedd o brofiad ymgynghoriaeth busnes amaethyddol.

Mae Wendy yn gyfathrebwr gwych ac yn cael pleser mawr o ddod o hyd i ffyrdd o helpu busnes fferm i ffynnu.

Mae ganddi'r set sgiliau i ddadansoddi data busnes a darparu gwybodaeth feincnodi ystyrlon sy'n galluogi Wendy i ddatblygu cyngor perthnasol ac effeithiol gyda chynlluniau gweithredu i helpu'r busnes hwnnw ddatblygu.

Gyda llawer iawn o wybodaeth am fentrau ar y cyd a chynllunio olyniaeth, mae Wendy yn hyderus wrth weithio gyda newydd-ddyfodiaid yn ogystal â theuluoedd sydd wedi sefydlu wrth ymdrin ag olyniaeth.

Mae gan Wendy wybodaeth helaeth am gynlluniau cymorth gan gynnwys BPS, Rheoliadau Llygredd Dŵr a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

Mae gan Wendy hefyd gyfoeth o wybodaeth am gynlluniau sicrwydd fferm, cadw cofnodion ynghylch cnydau a da byw.

Gan weithio gydag ystod eang o gleientiaid rheolaidd, mae'n darparu cyfrifon rheoli a gwasanaethau cadw cyfrifon.

Fel ymgynghorydd amaethyddol a gwraig fferm, mae Wendy wedi ymrwymo i gynorthwyo busnesau ffermio yng Nghymru.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • Cyfarwyddwr ac un o sylfaenwyr CARA Wales Ltd.
  • Cymrawd Sefydliad Ymgynghorwyr Amaethyddol Prydain
  • 2.1 BSc (Anrh) mewn Amaeth gydag Astudiaethau Busnes
  • Aelod o Sefydliad y Ceidwad Cyfrifon Ardystiedig
  • 30 mlynedd o brofiad fel Ymgynghorydd Amaethyddol
  • Paratoi sgyrsiau ar gyfer sefydliadau a grwpiau trafod yn rheolaidd.
  • Trysorydd Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru
  • Ymgynghorydd Arweiniol y Gwasanaeth Cynghori, ac yn aelod o  Fwrdd Cyflawni Cynllun Cyswllt Ffermio.

Awgrym /Dyfyniad

“Meddu ar wybodaeth drylwyr am eich busnes”.