Wendy Jenkins
Enw
Wendy Jenkins
Lleoliad
Ceredigion
Prif Arbenigedd
Ymgynghoriaeth Busnes Amaethyddol
Dadansoddi Perfformiad Busnes
Meincnodi
Cynllunio Olyniaeth
Mentrau ar y Cyd
Sector
Llaeth, Bîff, Defaid, Busnes a Deddfwriaeth
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
30 mlynedd o brofiad ymgynghoriaeth busnes amaethyddol.
Mae Wendy yn gyfathrebwr gwych ac yn cael pleser mawr o ddod o hyd i ffyrdd o helpu busnes fferm i ffynnu.
Mae ganddi'r set sgiliau i ddadansoddi data busnes a darparu gwybodaeth feincnodi ystyrlon sy'n galluogi Wendy i ddatblygu cyngor perthnasol ac effeithiol gyda chynlluniau gweithredu i helpu'r busnes hwnnw ddatblygu.
Gyda llawer iawn o wybodaeth am fentrau ar y cyd a chynllunio olyniaeth, mae Wendy yn hyderus wrth weithio gyda newydd-ddyfodiaid yn ogystal â theuluoedd sydd wedi sefydlu wrth ymdrin ag olyniaeth.
Mae gan Wendy wybodaeth helaeth am gynlluniau cymorth gan gynnwys BPS, Rheoliadau Llygredd Dŵr a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
Mae gan Wendy hefyd gyfoeth o wybodaeth am gynlluniau sicrwydd fferm, cadw cofnodion ynghylch cnydau a da byw.
Gan weithio gydag ystod eang o gleientiaid rheolaidd, mae'n darparu cyfrifon rheoli a gwasanaethau cadw cyfrifon.
Fel ymgynghorydd amaethyddol a gwraig fferm, mae Wendy wedi ymrwymo i gynorthwyo busnesau ffermio yng Nghymru.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- Cyfarwyddwr ac un o sylfaenwyr CARA Wales Ltd.
- Cymrawd Sefydliad Ymgynghorwyr Amaethyddol Prydain
- 2.1 BSc (Anrh) mewn Amaeth gydag Astudiaethau Busnes
- Aelod o Sefydliad y Ceidwad Cyfrifon Ardystiedig
- 30 mlynedd o brofiad fel Ymgynghorydd Amaethyddol
- Paratoi sgyrsiau ar gyfer sefydliadau a grwpiau trafod yn rheolaidd.
- Trysorydd Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru
- Ymgynghorydd Arweiniol y Gwasanaeth Cynghori, ac yn aelod o Fwrdd Cyflawni Cynllun Cyswllt Ffermio.
Awgrym /Dyfyniad
“Meddu ar wybodaeth drylwyr am eich busnes”.