Neil Blackburn

Enw

Neil Blackburn

Lleoliad

Gogledd / Canolbarth Cymru

Prif Arbenigedd

  • Rheoli busnes ac ymgynghoriaeth laeth technegol

Sector

  • Llaeth

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Mae 30 mlynedd fel ymgynghorydd yng Nghymru wedi rhoi’r profiad i mi o sut i weithio gyda busnesau teuluol i gyflawni newid cadarnhaol.
  • Rwyf wedi gweithio gyda llawer o fusnesau sy'n tyfu yn barhaus ac felly rwy'n deall yr hyn sydd ei angen i fod yn llwyddiannus.
  • Mae nodi'r prif feysydd i weithio arnynt i gyflawni'r amcanion busnes a chael cefnogaeth gan deulu a staff yn holl bwysig i gynllun llwyddiannus.
  • Mae ysgogi aelodau’r teulu a staff i roi newid ar waith yn rhan fawr o’m rôl a gweld canlyniadau cadarnhaol yw’r rhan fwyaf gwerth chweil o ran yr hyn rwy’n ei wneud.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • Astudiodd Amaeth ym Mhrifysgol Newcastle.
  • 30 mlynedd o brofiad fel ymgynghorydd.
  • Mae’n arbenigo mewn darparu cyngor busnes, cynllunio strategol, maeth, ac ymgynghoriaeth dechnegol.
  • Mae’r gwaith rheoli busnes yn cynnwys paratoi cynlluniau busnes a chyllidebau ar gyfer ffermydd llaeth a da byw, yn ogystal â sefydlu mentrau ar y cyd (ffermio dan gontract a ffermio cyfran).
  • Mae'r gwaith technegol yn cynnwys maeth llaeth a stoc ifanc, rheoli iechyd y fuches a chynllunio porthiant.

Awgrym /Dyfyniad

Mynnwch gynllun, cadw ar y blaen â’r wybodaeth ddiweddaraf, dysgwch gan eraill a byddwch yn barod i addasu eich cynllun wrth i newidiadau ddigwydd