Tom Greenham

Enw

Tom Greenham

Lleoliad

Cenedlaethol

Prif Arbenigedd

  • Iechyd y pwrs/cadair ac ansawdd llaeth

Sector

  • Llaeth

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Mae gweithio gyda busnesau o bob maint ac arddull wedi rhoi profiad helaeth i Tom o'r gwahanol systemau llaeth.
  • Mae ymchwil Tom i iechyd y pwrs/cadair a gweithrediad y peiriant godro yn ei gadw ar flaen y gad yn y maes hwn o'r diwydiant.
  • Mae darparu cymorth annibynnol i weithgynhyrchwyr cynnyrch godro yn rhoi gwybodaeth ymarferol drylwyr i Tom am y datblygiadau diweddaraf mewn peiriannau godro, cemegau a meddyginiaethau.
  • Mae cyngor bob amser yn cael ei gefnogi gan ddadansoddiadau cost:budd i sicrhau bod buddsoddiadau neu newidiadau mewn rheolaeth yn rhoi gwerth da.
  • Mae cynlluniau cyngor yn cael eu creu mewn cydweithrediad â thîm cyfan y fferm. Mae hyn yn cynhyrchu pwyntiau gweithredu sy'n ymarferol ac yn ymgysylltu â phawb sy'n ymwneud â'u cyflawni. 

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • BVSc - Gradd mewn milfeddygaeth ym Mhrifysgol Bryste, 2008.
  • DBR - diploma lefel meistr mewn atgenhedlu mewn gwartheg, Prifysgol Lerpwl, 2015
  • Naw mlynedd yn gweithio mewn practis milfeddygol llaeth cyffredinol – 2008-2017.
  • Sefydlu busnes ymgynghorol arbenigol yn 2017 gan sicrhau iechyd y pwrs/cadair, ansawdd llaeth ac effeithlonrwydd godro gorau posibl.
     

Awgrym /Dyfyniad

Peidiwch â buddsoddi mwy o amser, ymdrech neu arian nag sydd ei angen arnoch i gyflawni eich targed; ond, pan fydd angen i chi weithredu, gwnewch hynny yn gynnar ac yn llwyr.