17 Ionawr 2024

 

“Chi sy’n pennu’ch llwybr gyrfa a’ch datblygiad personol, ond gallwn ni ddarparu’r cymorth, yr arweiniad a’r hyfforddiant i’ch helpu i gyflawni eich nodau,” dywed Sarah Lewis, dirprwy gyfarwyddwr Lantra Cymru, sy’n darparu elfen sgiliau a hyfforddiant rhaglen dysgu a datblygiad gydol oes Cyswllt Ffermio.   

Os ydych yn gweithio ym maes amaethyddiaeth, garddwriaeth neu goedwigaeth yng Nghymru ac am weithio’n fwy effeithlon, cynaliadwy a phroffidiol yn 2024, yna mae diweddaru’ch cynllun datblygiad personol (CDP) Cyswllt Ffermio, neu greu un, os nad oes un gennych yn barod, yn gam cyntaf hollbwysig, yn ôl Ms Lewis.  

Mae’r CDP, sef adnodd ar-lein diogel sy’n unigryw i chi, ar gael trwy wefan BOSS https://businesswales.gov.wales/boss/cy(Gwasaneth Cymorth Busnes Ar-lein) Llywodraeth Cymru, sydd ar gael drwy Sign-on Cymru. Am y tro cyntaf, mae’n cynnwys tab ‘anghenion datblygu’ a fydd yn cael ei ddiweddaru er mwyn i chi gynnwys yr holl sgyrsiau ynghylch ‘datblygiad personol’ y gallwch fod wedi’u cael gyda staff Cyswllt Ffermio. Gallwch hefyd ei ddiweddaru eich hun os byddwch yn nodi gofyniad hyfforddiant neu ddatblygu newydd. 

“Mae meddu ar CDP yn eich galluogi i nodi unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth, fel y gallwch ddewis a gwneud cais wedyn am gyllid ar gyfer naill ai cyrsiau hyfforddiant achrededig byr Cyswllt Ffermio – pob un ohonynt wedi’u hariannu hyd at 80% – neu ein hopsiynau e-ddysgu a ariennir yn llawn,” meddai Ms. Lewis. Gyda mwy na 200 o gyrsiau ar gael, sydd wedi'u categoreiddio'n fras i feysydd tir, da byw, busnes a pheiriannau, esboniodd fod “yna gyfle hyfforddiant i bawb, mewn gwirionedd”.

Bydd eich CDP yn eich helpu i osod amcanion hirdymor a nodau tymor byr. Dyma fan cychwyn unrhyw daith cleient gyda Cyswllt Ffermio, ac mae’n ofyniad hanfodol cyn y gallwch wneud cais am wasanaethau gan gynnwys gweithdai achrededig yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid, mentora un-i-un, yr Academi Amaeth, rhaglen Agrisgôp a’r rhan fwyaf o brosiectau cymorth datblygiad personol eraill sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio.

“Cofiwch mai eich taith bersonol chi yw CDP, felly nid oes un dull sy’n addas i bawb, ond gallwn eich helpu i greu cynllun sydd wedi’i deilwra i’ch anghenion a’ch dyheadau unigryw chi.”

Bydd eich CDP yn cael ei lwytho i'ch cyfrif Storfa Sgiliau ar eich rhan. Dyma adnodd cadw cofnodion ar-lein diogel Cyswllt Ffermio sy’n nodi’ch holl sgiliau a’ch cyflawniadau personol, gan gynnwys yr holl hyfforddiant a gweithgareddau rydych yn eu gwneud drwy Cyswllt Ffermio. Mae hefyd adran ‘Fy Lle’, y gallwch ei diweddaru gyda datblygiad personol neu gyflawniadau academaidd perthnasol eraill. Mae’r Storfa Sgiliau bellach yn cael ei gydnabod fel adnodd sy’n darparu tystiolaeth hanfodol ar gyfer cynlluniau gwarant fferm, prynwyr manwerthu a chyfanwerthu, a gall eich helpu i greu cv cronolegol.  

Pwysleisiodd Ms Lewis fod cymorth ar gael bob amser, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm (ac eithrio ar benwythnosau a gwyliau banc), os oes arnoch angen cymorth gydag unrhyw ran o’r broses o gyrchu neu greu eich CDP. Ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol neu ewch i llyw.cymru/cyswlltffermio am fanylion cyswllt. Fel arall, ffoniwch 03456 000 813, sef Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi llyfryn canllaw ‘cam wrth gam’ defnyddiol a fydd yn eich tywys drwy’r broses ymgeisio sgiliau gyflawn, gan gynnwys cyrchu BOSS a chwblhau CDP. 
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffenestr cyllid yn ailagor ar gyfer treialon ar y fferm yng Nghymru
20 Ionawr 2025 Gyda threialon a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, yn llongyfarch ‘y gorau o’r goreuon’ ar gyfer Gwobrau Lantra Cymru 2024
17 Ionawr 2025 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried