04 Mawrth 2024
Mae fferm ddefaid yng Ngheredigion sy’n dibynnu’n llwyr ar ddŵr ffynnon ar gyfer da byw a phobl yn gweithredu i ddiogelu ei chyflenwad dŵr, gan adeiladu gwytnwch o fewn y system drwy ddefnyddio technoleg ynghyd ag arbenigedd a ddarperir gan Cyswllt Ffermio.
Mae Wallog, fferm arfordirol 194 hectar ger Clarach, yn cael ei holl ddŵr o rwydwaith o ffynhonnau dan ddaear.
Mae’r rhain yn bwydo i mewn i danciau cronni ac mae’r dŵr yn cael ei bwmpio o amgylch y fferm i ddarparu dŵr ar gyfer y ddiadell o 800 o famogiaid Mynydd Cymreig, y tŷ fferm a’r bythynnod tenantiaid.
Fe wnaeth y cyfnod o dywydd poeth yn 2022 amlygu’r pwysau ar gyflenwadau dŵr, meddai Dai Evershed, sy’n rhedeg y fferm ar y cyd â’i dad, Jack, ochr yn ochr â’i waith yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).
“Roedd hi’n boeth iawn, a chawsom gyn lleied o law nes bod cyflenwad y dŵr ffynnon yn araf iawn,” meddai.
“Mae hon yn broblem sy’n mynd i waethygu wrth i’n hafau fynd yn sychach, felly fe wnaethom ni benderfynu mai dyma’r amser i ddechrau edrych ar arbed dŵr lle bo’n bosibl a’i ddefnyddio mewn modd mwy effeithlon wrth i ni ei symud o gwmpas.”
Mae’n gobeithio y bydd yr effeithlonrwydd yn dod drwy leihau eu defnydd o drydan; mae pympiau trydan yn cael eu defnyddio i symud dŵr o ffynhonnau i gronfeydd cyn iddo gael ei symud gyda disgyrchiant i ble bynnag fo’i angen.
Trwy bwmpio’r union gyfaint sydd ei angen, a thrwy ganfod unrhyw ollyngiadau a phroblemau cyn gynted ag y byddant yn digwydd, dylai fod yn bosibl i leihau ein defnydd o drydan,” meddai Dai.
“Mae trydan yn gost sylweddol i’r busnes,” meddai. “Mae lleihau faint o drydan yr ydym yn ei ddefnyddio yn gwneud synnwyr o safbwynt y busnes, ond ceir agwedd foesegol hefyd, sef ceisio lleihau ein hôl troed carbon.”
Yn ei ymdrechion i gyflawni ei amcanion deublyg, a gyda chymorth ei gydweithiwr, Jason Brook, mae Dai wedi llwyddo i gael grant wedi’i ariannu 40% gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn porth LoRaWAN a phum synhwyrydd, i fonitro defnydd o ddŵr ac ynni, ac i ganfod ac atal unrhyw ollyngiadau cyn gynted â phosibl.
Gyda chymorth Cyswllt Ffermio fel un o brosiectau ‘Ein Ffermydd’, mae lefelau dŵr mewn gwahanol gronfeydd yn cael eu monitro ynghyd â chyfraddau llif dŵr, ac mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ynghylch pryd y mae angen pwmpio.
Bydd yn derbyn cymorth fel rhan o’r prosiect ‘Ein Ffermydd’ i lunio system sy’n addas ar gyfer y dyfodol, gyda’r nod yn y pen draw o bwmpio dŵr yn awtomatig a defnyddio ynni a gynhyrchir gan y paneli ffotofoltäig (PV) a osodwyd yn ddiweddar, a allai weithredu fel glasbrint ar gyfer ffermydd eraill.
“Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu i ddeall faint o ddŵr sydd ar gael ar unrhyw adeg, a sut y gallwn ei gyfeirio at wahanol rannau o’r fferm gyda mwy o bibellau a chafnau,” meddai David.
Mae argaeledd dŵr yn rhwystr sylweddol ar y fferm ar hyn o bryd o ran gallu trosi i system bori cylchdro.
“Gobeithiwn y bydd y prosiect yn ein helpu i benderfynu a yw system o’r fath yn bosibl gyda faint o ddŵr sydd ar gael i ni,” meddai Dai.
“Gobeithio y gallwn symud oddi wrth ddibyniaeth ar nentydd a phyllau i ddarparu dŵr ar gyfer da byw dros yr haf a galluogi’r ardaloedd hynny i ddychwelyd i natur.’’