07 Mawrth 2023
Mae ffermwyr ledled Cymru wedi cael eu hysbrydoli i geisio cymorth i fesur ôl-troed carbon eu busnesau ar ôl cyfres o weithdai a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio.
Cynhaliwyd y dosbarthiadau meistr ar garbon, dan arweiniad Swyddog Arbenigol Carbon Cyswllt Ffermio, Dr Non Williams, yn Sanclêr, y Drenewydd a Nefyn, a rhoddodd gyfle i ffermwyr ddeall arwyddocâd y cylch carbon ar eu ffermydd, a sut y gallant ddylanwadu arno i helpu i leihau eu hôl-troed carbon yn y dyfodol.
Dywedodd Dr Williams bod nifer o ymholiadau wedi bod o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfarfodydd hynny gan ffermwyr a oedd yn awyddus i wneud cais am arian i fesur ôl-troed carbon eu fferm eu hunain.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael drwy Wasanaethau Cynghori Cyswllt Ffermio ac mae wedi’i ariannu hyd at 90%.
Roedd gan fwyafrif y ffermwyr a oedd yn bresennol yn y dosbarthiadau meistr systemau bîff, defaid neu laeth, a dim ond dau o’r rheini oedd eisoes wedi dechrau ar ymarfer i fesur ôl-troed carbon.
“Siaradodd un o’r ffermwyr hynny am ba mor ddefnyddiol oedd y broses oherwydd ei bod wedi nodi meysydd lle gellid gwella effeithlonrwydd ei fferm,” meddai Dr Williams.
Bydd man cychwyn pob fferm yn wahanol ac felly bydd yr hyn y gallant ei gyflawni o ran enillion effeithlonrwydd yn wahanol hefyd, nododd.
“Efallai y bydd rhai mesurau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir ar y fferm neu wella’r broses dal a storio carbon yn ymddangos yn anghyraeddadwy i rai busnesau, ond nid oes angen llawer o fuddsoddiad, os o gwbl, ar lawer o ymarferion. Bydd rhywbeth y gall pob fferm ei wneud hefyd,'' awgrymodd.
Nid yw'r angen i weithio tuag at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir a gwella atafaeliad carbon yn diflannu, ychwanegodd Dr Williams. “Mae gan brynwyr, manwerthwyr, defnyddwyr i gyd ddiddordeb yn ôl-troed carbon cynnyrch fferm.''
Roedd llawer o’r ffermwyr wedi cofrestru ar gyfer y dosbarth meistr rhyngweithiol oherwydd, er eu bod yn ymwybodol o ymarferion i fesur ôl-troed carbon, roedd arnynt eisiau gwybod mwy.
Roedd un agwedd yn ymwneud â chwalu'r 'jargon o ran carbon', gyda Dr Williams yn egluro’r ystyr y tu ôl i dermau fel sero net, datgarboneiddio a charbon deuocsid cyfwerth.
Roedd trafodaeth hefyd yn annog ffermwyr i ystyried ffynhonnell allyriadau nwyon tŷ gwydr ar eu ffermydd eu hunain, yn ogystal â chyfleoedd i ddal a storio carbon.
I gael gwybodaeth am sut y gall Cyswllt Ffermio eich helpu i leihau allyriadau tŷ gwydr neu i gael gwybodaeth am ddal a storio carbon, ewch i wefan cyswllt ffermio ar https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/carbon