Trosolwg:
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a'r hyder i chi osod ffensys post a gwifren straen yn ddiogel, gan eich amddiffyn chi a'r rhai o'ch cwmpas. 
Datblygwyd y cwrs hyfforddi hwn i'ch helpu i ddeall sut i osod ffensys post a gwifren straen yn ddiogel. Bydd faint o gyfarwyddyd fydd eu hangen arnoch yn dibynnu ar eich profiad blaenorol a bydd sesiynau'n cael eu haddasu i ddiwallu eich anghenion. 

Bydd y cwrs yn cynnwys sesiynau theori ac ymarferol, ac yna asesiad. Mae sesiynau'r cwrs yn cynnwys: 
• Mathau o Ffens
• Sut i osod ffensys gwifren straen 
• Asesiad theori 
• Asesiad ymarferol 

Ar ddiwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu:
 • Disgrifio pwrpas a chydrannau systemau ffensys post a gwifren straen 
• Disgrifio'r deunyddiau a'r gofynion gosod ar gyfer systemau ffensys post a gwifren straen 
   • Dewis a pharatoi offer ac adnoddau ar gyfer systemau ffensys post a gwifren straen 
• Dangos sut i gyfrifo'r deunyddiau gofynnol ar gyfer systemau ffensys post a gwifren straen 
   • Dangos sut i osod a thrwsio pyst ar linellau, lefelau  
ac onglau penodedig 
   • Paratoi a gosod cydrannau post a gwifren straen i gwrdd â  manylebau 
• Gosod a thrwsio cydrannau post a gwifren straen yn ddiogel ar linellau, lefelau ac uchder penodedig 
• Dangos sut i archwilio, atgyweirio a phrofi systemau ffens gwifren straen.  

Bydd hyd y cwrs yn dibynnu ar brofiad a bydd o un i bedwar diwrnod.

Os byddwch yn llwyddiannus i fodloni'r safonau gofynnol a asesir, byddwch yn derbyn tystysgrif cymhwysedd a cherdyn adnabod sgiliau Lantra.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Diogelwch Plaladdwyr

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Grŵp Hyfforddi: Bro Gele

Enw cyswllt:
Irwedd Griffiths


Rhif Ffôn:
01492 680499


Cyfeiriad ebost:
irwedd@outlook.com


Cyfeiriad gwefan:
Dim gwefan


Cyfeiriad post:
Nant y Gochel, Abergele, Conwy LL22 8NS


Ardal:
Cymru gyfan

Grwp Llandrillo Menai

Enw cyswllt:
Dewi Williams


Rhif Ffôn:
01286 830261 - rhif estyniad: 8539


Cyfeiriad ebost:
dewiwilliams@gllm.ac.uk


Cyfeiriad gwefan:
www.gllm.ac.uk


Cyfeiriad post:
Coleg Meirion-Dwyfor Glynllifon, Caernarfon, Gwynedd LL54 5DU


Ardal:
Gogledd Cymru


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Cneifio Defaid ar lefel Uwch
Dyma gwrs hyfforddi deuddydd gydag asesiad integredig. Rhoddir
Cymorth Cyntaf yn y Gweithle mewn Argyfwng
Cwrs undydd gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus
Rheoli eich Llif Arian
Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb ar ôl