Cefnogaeth sydd ar gael?
Gallwn helpu chi a’ch teulu i ystyried y materion allweddol sydd angen eu trafod a’u hystyried os a phryd bydd eich amgylchiadau’n newid.
Mae’r cymorth yn cynnwys:
- Rhaglen Mentora: Gall ffermwyr neu goedwigwyr cymwys wneud cais o hyd at 15 awr o gyngor annibynnol, diduedd a chyfrinachol wedi’i ariannu’n llawn
- Cymorthfeydd Cynllunio Olyniaeth: Cyfarfod un-i-un gyda chyfreithiwr arbenigol wedi’i ariannu’n llawn
- Cyngor busnes a thechnegol: Gall ffermwyr neu goedwigwyr cymwys gael mynediad at gyngor busnes a thechnegol, wedi’i ariannu hyd at 80% ar gyfer ceisiadau unigol
- Pecyn adnoddau: Defnyddiwch ein pecyn adnoddau cyfleus i drafod a chofnodi’r materion sy’n berthnasol i’ch busnes
Gallwch hefyd fynd â’r pwnc ymlaen gyda’ch cynghorwyr proffesiynol eich hun er mwyn arbenigo mwn materion amaethyddol.