Pynciau Busnes

Busnes a pherfformiad y busnes

Adolygu neu werthuso perfformiad eich busnes.

Trafod eich cynllun busnes.

Dechrau’r broses feincnodi.

Adolygu gorbenion

Marchnata a Chyfryngau cymdeithasol

Marchnata eich busnes cyfredol.

Deall eich cymysgedd farchnata.

Dynodi a chyrraedd y gynulleidfa/cwsmeriaid yr ydych yn eu targedu.

Cyngor ar frandio a marchnata ar gyfryngau cymdeithasol

Arallgyfeirio

Ble i ddechrau ar brosiect arallgyfeirio.

Trafod syniadau posibl a beth allai weithio i’ch busnes chi.

Olyniaeth

Trafod unrhyw faterion gyda chyfreithiwr ynglŷn ag olyniaeth gan gynnwys pynciau fel mentrau ar y cyd, cytundebau partneriaeth, tenantiaethau ewyllysiau, profi ewyllysiau a chynllunio etifeddiaeth.

Cychwyn cynllunio olyniaeth i ddiogelu eich busnes.

Cyfraith amaethyddiaeth

Trafod unrhyw faterion gyda chyfreithiwr ynglyn â chyfraith amaethyddiaeth gan gynnwys pynciau fel anghydfodau ffiniau, llwybrau cyhoeddus, prydlesi tir, anghydfodau pori, goblygiadau prynu/gwerthu tir, materion yn ymwneud â gwerthu/prynu stoc ac ati.

Cynllunio ariannu a chyfrifyddu

Edrych ar eich cyfrifon busnes a ffyrdd o wella strwythur eich busnes.

Cynlluniau ar gyfer prosiectau at y dyfodol - gan gynnwys llif arian.

Treth fusnes

Cynllunio a Datblygu

Trafod problemau sydd gennych o ran y prosesau cynllunio ar gyfer adeiladau ar eich fferm fel adeiladu o’r newydd, adnewyddu a throsi, cynlluniau ynni adnewyddadwy, cyfleoedd o ran twristiaeth.

TGCH

Datblygwch eich sgiliau TG boed yn gefnogaeth sylfaenol ar e-byst, dogfennau neu daenlenni, galwadau fideo neu gyngor mwy penodol ar systemau penodol fel TAW ar-lein, Quickbooks, Xero, Sage, BCMS, RPW ar-lein

Meincnodi

Trafod sut i ddechrau meincnodi, casglu data ffisegol (canran sganio, canran magu, canran gwerthu ac ati), creu ffurflenni syml i gasglu data, mewnbynnu data mewn i systemau a thrafod y canlyniadau.

Adnoddau dynol / Rheoli staff

Cytundebau staff. Newid telerau ac amodau cyflogaeth e.e. lleihau oriau.

Awgrymiadau iechyd, lles a diogelwch yn y gwaith.

Rheoli perfformiad a chynnal cymhelliant staff a’u hymlyniad.

Effeithlonrwydd ynni / Ynni adnewyddadwy

Trafod dewisiadau effeithlonrwydd ynni a beth i’w ystyried wrth ystyried dewisiadau ynni adnewyddadwy ar gyfer eich fferm gan gynnwys cyflenwad trydan, ceisiadau cynllunio, dylunio a gosod.

Defnydd o drydan a’i ddadansoddi (gan gynnwys cyflenwyr). Dylunio ynni adnewyddadwy gan gynnwys oddi ar y grid.

Isadeiledd I trafod cyfrifiad ar gyfer gofod storio slyri

 

Am ragor o wybodaeth neu i archebu cymhorthfa cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.