13 Mai 2024

 

Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 18 a 19 o Fai 2024, ble y bydd Cyswllt Ffermio’n bresennol i roi cymorth a chyngor i chi. P’un a ydych yn dyfwr tymhorol, yn newydd-ddyfodiaid chwilfrydig, neu’n dymuno ychwanegu ychydig o natur i’ch bywyd yn unig, ni ddylech golli’r digwyddiad hwn.
Bydd Cyswllt Ffermio yng Nghanolfan yr Aelodau yn cynnig cymorth, arweiniad a hyfforddiant i’ch helpu chi gyflawni eich nodau garddwriaethol. Bydd tîm Cyswllt Ffermio’n barod i drafod y rhaglen Arddwriaeth sydd wedi’i hariannu’n llawn ac sydd wedi’i chynllunio i helpu tyfwyr sydd wedi sefydlu a’r rhai sy’n edrych am gyfleoedd arallgyfeirio newydd. Peidiwch â cholli arddangosiad Julie Robinson fore dydd Sul, lle y bydd hi’n plannu basgedi a photiau gyda pherlysiau a ffrwythau bwytadwy bendigedig (tomato a mefus).

Bydd marchnad fywiog yn amgylchynu stondin Cyswllt Ffermio a fydd yn cynnwys gwahanol stondinau marchnad cyffrous.
Yn West Wales Willows, gallwch ddarganfod dros 260 math o helyg, dysgu am y gwahanol ddefnydd ar gyfer helyg a gallwch hyd yn oed gymryd rhan mewn gweithdy gwehyddu cynhaliaeth ar gyfer planhigyn. Mae P&J Plants yn cynnig archwiliad diddorol i fyd planhigion cigysol, gyda detholiad o Sarracenia, Maglau Gwener a mwy yn cael eu harddangos. Bydd yr NPTC yn eich cyflwyno i gyfleoedd cyffrous ym maes garddwriaeth. Gallwch archwilio'r cyrsiau sydd ganddynt i’w cynnig a mynd â phlanhigion sydd wedi’u tyfu gan fyfyrwyr NPTC gartref gyda chi.

Cefnogwch fusnesau amaethyddol lleol yn y digwyddiad. Bydd gan Ardd Farchnad Alfie Dans lysiau tymhorol ffres, bydd Ty Madoc Cider Farm yn rhannu eu gwybodaeth am berlysiau treftadaeth a choed afalau, a bydd Living Simply Lavender yn cynnig cynhyrchion lafant therapiwtig.

Bydd Beltane Blooms a Bloomorium yn cynnwys trefniant hyfryd o dorchau a blodau sych. Bydd ganddynt hyd yn oed arddangosiad ar sut i wneud rhai eich hun. Beth am groesawu harddwch blodau lleol ar stondin Welsh Flower Barrow a Flowers from the Farm. Byddant hefyd yn egluro’r opsiwn ar gyfer archebu blodau drwy’r post ac yn arddangos tusw o flodau wedi’u clymu â llaw.

Peidiwch â cholli’r cyfle i gysylltu â chyd arddwyr brwdfrydig, dysgu gan arbenigwyr a darganfod byd o hyfrydwch blodau ac amaeth.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau’n ymwneud â sgiliau a hyfforddiant, bydd staff a darparwyr hyfforddiant yn bresennol yn adeilad Lantra ac yn cynnig arweiniad a chymorth ar sut i gwblhau Cynllun Datblygiad Personol (CDP), modiwlau e-ddysgu ac opsiynau o ran hyfforddiant achrededig. Bydd staff hefyd yn arddangos y system cofnodi Storfa Sgiliau, sef system sy’n cofnodi pob gweithgaredd Cyswllt Ffermio rydych wedi’u cwblhau.  

Dros y ddau ddiwrnod, bydd y darparwyr canlynol wrth law i drafod unrhyw ymholiadau’n ymwneud ag hyfforddiant.

  • Advanced Training
  • IBERS
  • Jimmy Hughes Training Ltd
  • Coleg Castell-nedd Port Talbot
  • Phoenix Training
  • Simply the Best Training
  • Training for the Future

Bydd nifer o arddangosiadau byw y tu allan i adeilad Lantra dros y ddau ddiwrnod ar blannu llysiau tymhorol a sut i’w coginio.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyswllt Ffermio www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Lleol.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu