Gwndwn pori mewnbwn isel
Mae Rhodri wedi gwella llawer o’i dir gorau ym Mrynllech Uchaf dros y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi cael llwyddiant wrth gyflwyno gwndwn Meillion Coch o safon uchel yn y llwyfannau pori a thorri.
Er mwyn cael gwell rheolaeth ar y caeau gorau, mae’n awr yn awyddus iawn i wella ei gaeau pori salach. Y prif reswm am y pwyslais hwn yw oherwydd nad yw’r gwndwn glaswellt presennol yn gweddu i’r patrymau tywydd wrth iddynt newid, yn enwedig yr hafau sychach a phoethach. Yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, nid yw rhai caeau wedi cael eu pori am gyfnodau hir yn ystod yr haf oherwydd diffyg tyfiant glaswellt, gan ei orfodi i gamreoli’r caeau gorau ar y fferm.
Trwy dreialu gwahanol gymysgedd o hadau, gobeithir y byddwn yn gallu gweld pa gymysgedd hadau sy’n gweddu i’r caeau hyn ar ei fferm (sy’n nodweddiadol o lawer o ffermydd tir uchel ym Meirionnydd a thu hwnt), y system (mewnbwn N isel) a’r hinsawdd.
Trwy yrru mwy o welliant mewn effeithlonrwydd, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
- cefnogi gwelliant mewn storio ac atafaelu carbon gan leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
- cynnal a gwella’r ecosystem
- cyfrannu at iechyd a lles da i’r ddiadell.