Ymdrin â dangosyddion ffrwythlondeb i wella effeithlonrwydd cynhyrchu llaeth

Ffrwythlondeb yw un o’r prif ffactorau sy’n effeithio ar effeithlonrwydd unrhyw fuches laeth. Gall gyfri am un o brif gostau cynhyrchu, ac fel arfer mae’n faes lle gellir gwneud gwelliannau sylweddol. Mae amcangyfrifon llaeth yr AHDB yn amcangyfrif bod ffrwythlondeb gwael yn costio £25,000 y flwyddyn yn y fuches 100 buwch sy’n perfformio’n arferol, sy’n cyfateb i 3.2 c/litr o ganlyniad i’r cynhyrchu llaeth a gollir, llai o loi, mwy o waredu stoc a chostau milfeddygol.

Er mai’r cam cyntaf wrth leihau colledion diangen oherwydd ffrwythlondeb yw cynnal asesiad manwl o berfformiad unigol y fuches o ran ffrwythlondeb, mae’n bwysig sylweddoli mai’r ffordd orau o farnu ffrwythlondeb yw fel rhan o adolygiad o’r fferm gyfan.

Mae rheoli atgenhedlu’n faes cymhleth, sy’n cynnwys penderfyniadau am eneteg, rheoli cyfraddau tyfu ar gyfer magu heffrod cyfnewid yn brydlon a chyflawni cyfradd feichiogi uchel, sy’n ddibynnol ar ganfod pryd bydd buchod yn gofyn tarw a chyfraddau cenhedlu da.

Bydd sicrhau’r ffrwythlondeb mwyaf yn y fuches laeth yn gwella cynhyrchiant llaeth blynyddol ac yn lleihau ôl troed carbon ar gyfer dwy o’n ffermydd Rhwydwaith Ein Ffermydd; Clyngwyn a Rhyd y Gofaint. 

Nod y prosiect yw cynnig pwyntiau gweithredu i wella dangosyddion perfformiad allweddol penodol ar gyfer y ddwy fferm i wella effeithlonrwydd atgenhedlu. Yn benodol, y nod yw gwneud gwelliannau i roi hwb i’r cyfraddau lloia 6 wythnos neu 100 diwrnod yn y fuches sy’n lloia yn y gwanwyn a’r un sy’n lloia trwy’r flwyddyn yn eu tro. Bwriedir gwneud newidiadau i nifer o arferion rheoli gan nad oes un achos unigol sy’n achosi diffyg ffrwythlondeb, gan anelu at dynhau’r bloc lloia/bwlch rhwng lloia ond heb gynyddu’r gyfradd wag i fwy na 10%.
 
Rhai o’r ffactorau all ddylanwadu y byddwn yn canolbwyntio arnynt yw:

  • Cynyddu’r gyfradd canfod buchod sy’n gofyn tarw
  • Lloia’r heffrod yn dda – iechyd a thwf stoc ifanc
  • Rheoli paru ac ymyraethau
  • Statws afiechyd

Trwy yrru mwy o welliant mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
  • Cyfrannu at iechyd a lles da i’r fuches.