Pam fyddai Eilir yn fentor effeithiol
- Mae Eilir wedi bod yn ymwneud â’r diwydiant llaeth trwy gydol ei oes, ac mae wedi defnyddio ei ysbrydoliaeth, ei brofiad yng Nghymru a Seland Newydd a’i wybodaeth i sicrhau bod ei fusnes yn gryf ac yn gynaliadwy er mwyn cefnogi ei deulu
- Mae Eilir wedi ehangu ei fferm o 100ha i 330ha trwy gyfuniad o brynu a rhentu, ac mae’n hyderus wrth ddelio gyda’r banc, creu cyllidebau, llif arian ac adroddiadau.
- Mae’n hyderus wrth siarad yn gyhoeddus ac wrth roi ei farn ei hun. Mae Eilir yn credu mai rhoi beirniadaeth adeiladol yw un o’r ffyrdd gorau i unigolyn a’r busnes i wella a thyfu.
- Mae ei rôl wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn mae’n cynnwys rheoli pobl, ynghyd â’r gwartheg. Mae ganddo sgiliau cymell da, gweledigaeth glir ac mae ganddo feddwl positif.
- Mae Eilir yn credu bod dilyniant a thwf personol yn hanfodol ar gyfer unrhyw fath o fusnes.
- Gall Eilir gynnig profiad helaeth a meddwl agored, o fesur glaswellt i gyllidebu ariannol, a mentrau ar y cyd o unrhyw fath.
Busnes fferm bresennol
- Ar hyn o bryd, mae’n ffermio 330ha, ac mae Eilir a’i bartner Catrin wedi ehangu’r fferm o 100ha yn 2008 i’r tir presennol, gydag 180ha yn berchen iddynt, ac yn denantiaid ar y gweddill
- Wedi trawsnewid o fferm ddefaid organig 130ha i fferm laeth.
- Buches o 700 o wartheg wedi’u rhannu’n ddwy uned.
- Mae Eilir bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i symud y busnes yn ei flaen.
Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad
- 1995 - 1997: Diploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth, IBERS Aberystwyth
- 1998: Gweithio yn Seland Newydd ar ffermydd Llaeth a chneifio defaid
- 1999 - 2001: HND Gelli Aur
- 2000: Ymuno â phartneriaeth deuluol ar fferm Henbant
- 2010 - Presennol: Cyfarwyddwr E Evans @ Son Ltd
- 2013: Stocmon y Flwyddyn NFU Cymru
- 2014 a 2016: Siaradwr gwadd ar gyfer digwyddiadu “Entrepreneurs in Dairying” a gynhaliwyd ar fferm Gelli Aur
AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT YM MYD BUSNES
"Peidiwch â gadael i ddylanwadau allanol effeithio ar y ffordd yr ydych yn rheoli eich busnes - ceisiwch reoli’r hyn sydd o fewn eich rheolaeth."
"Ceisiwch gadw meddwl positif, agwedd weithgar, meddwl agored, a thrin problemau fel heriau er mwyn gallu cwblhau’r gwaith."
"Sicrhewch fod pobl bositif o’ch cwmpas bob amser ynghyd â grwpiau meincnodi a fydd yn eich herio, ac yn darparu beirniadaeth adeiladol."
"Byddwch yn onest ac yn realistig."