Pam fyddai Eilir yn fentor effeithiol

  • Mae Eilir wedi bod yn ymwneud â’r diwydiant llaeth trwy gydol ei oes, ac mae wedi defnyddio ei ysbrydoliaeth, ei brofiad yng Nghymru a Seland Newydd a’i wybodaeth i sicrhau bod ei fusnes yn gryf ac yn gynaliadwy er mwyn cefnogi ei deulu
  • Mae Eilir wedi ehangu ei fferm o 100ha i 330ha trwy gyfuniad o brynu a rhentu, ac mae’n hyderus wrth ddelio gyda’r banc, creu cyllidebau, llif arian ac adroddiadau.
  • Mae’n hyderus wrth siarad yn gyhoeddus ac wrth roi ei farn ei hun. Mae Eilir yn credu mai rhoi beirniadaeth adeiladol yw un o’r ffyrdd gorau i unigolyn a’r busnes i wella a thyfu.
  • Mae ei rôl wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn mae’n cynnwys rheoli pobl, ynghyd â’r gwartheg. Mae ganddo sgiliau cymell da, gweledigaeth glir ac mae ganddo feddwl positif.
  • Mae Eilir yn credu bod dilyniant a thwf personol yn hanfodol ar gyfer unrhyw fath o fusnes.
  • Gall Eilir gynnig profiad helaeth a meddwl agored, o fesur glaswellt i gyllidebu ariannol, a mentrau ar y cyd o unrhyw fath.

Busnes fferm bresennol

  • Ar hyn o bryd, mae’n ffermio 330ha, ac mae Eilir a’i bartner Catrin wedi ehangu’r fferm o 100ha yn 2008 i’r tir presennol, gydag 180ha yn  berchen iddynt, ac yn denantiaid ar y gweddill
  • Wedi trawsnewid o fferm ddefaid organig 130ha i fferm laeth.
  • Buches o 700 o wartheg wedi’u rhannu’n ddwy uned.
  • Mae Eilir bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i symud y busnes yn ei flaen.

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • 1995 - 1997: Diploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth, IBERS Aberystwyth
  • 1998: Gweithio yn Seland Newydd ar ffermydd Llaeth a chneifio defaid
  • 1999 - 2001: HND Gelli Aur
  • 2000: Ymuno â phartneriaeth deuluol ar fferm Henbant
  • 2010 - Presennol: Cyfarwyddwr E Evans @ Son Ltd
  • 2013: Stocmon y Flwyddyn NFU Cymru
  • 2014 a 2016: Siaradwr gwadd ar gyfer digwyddiadu “Entrepreneurs in Dairying” a gynhaliwyd ar fferm Gelli Aur

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT YM MYD BUSNES

"Peidiwch â gadael i ddylanwadau allanol effeithio ar y ffordd yr ydych yn rheoli eich busnes - ceisiwch reoli’r hyn sydd o fewn eich rheolaeth."

"Ceisiwch gadw meddwl positif, agwedd weithgar, meddwl agored, a thrin problemau fel heriau er mwyn gallu cwblhau’r gwaith."

"Sicrhewch fod pobl bositif o’ch cwmpas bob amser ynghyd â grwpiau meincnodi a fydd yn eich herio, ac yn darparu beirniadaeth adeiladol."

"Byddwch yn onest ac yn realistig."