Stocrestr Flynyddol Defaid a Geifr - 1 Rhagfyr 2025
Dyddiad y Stocrestr nesaf ar gyfer Defaid a Geifr yw 1 Rhagfyr 2025.
I gwblhau’r stocrestr, a fyddech cystal â chofnodi nifer y defaid a/neu eifr yr ydych yn berchen arnynt ar 1 Rhagfyr a’r rhif daliad (CPH) lle maent wedi’u lleoli ar y dyddiad hwn.
Cysylltwch ag EIDCymru ar 01970 636959 neu e-bostiwch contact@eidcymru.org gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am y stocrestr. Mae modd cael rhagor o gymorth ac arweiniad ar wefan Llywodraeth Cymru Ceidwaid defaid a geifr: stocrestr flynyddol Rhagfyr 2025
Rydym wedi trefnu sesiynau galw heibio mewn marchnadoedd da byw yn ystod hanner cyntaf mis Rhagfyr lle bydd staff o Wasanaeth Cysylltwyr Fferm a Cyswllt Ffermio yn gallu darparu cymorth o ran cwblhau eich stocrestr.
Bydd EIDCymru, Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm a Cyswllt Ffermio hefyd yn y Ffair Aeaf i ateb unrhyw gwestiynau all fod gennych.