Enw
David Talbot
Lleoliad
Swydd Worcester
Prif Arbenigedd
Cnydau addurnol, maeth cnydau, cyfryngau tyfu, opsiynau gwahanol i fawn, cnydau bioddiogelu (rheoli plâu, clefydau a chwyn).
Sector
Cynhyrchu cnydau garddwriaeth addurnol
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
- Uwch ymgynghorydd profiadol a medrus sydd ar hyn o bryd yn cefnogi cynhyrchu cnydau masnachol ar raddfa fawr.
- Mae ganddo ddealltwriaeth ymarferol o’r sector garddwriaeth ar ôl gweithio mewn amrywiaeth o blanigfeydd masnachol ers iddo fod yn ifanc.
- Dealltwriaeth fanwl o’r diwydiant cnydau addurnol a’r ffactorau sy’n ei sbarduno.
- Gwybodaeth arbenigol am gnydau bioddiogelu (gan gynnwys rheolaeth fiolegol) ac agweddau eraill ar reoli plâu, clefydau a chwyn.
- Mynediad at rwydwaith eang o sgiliau ategol e.e. cydweithwyr arbenigol yn gweithio ym maes entomoleg, patholeg a ffisioleg.
- Darparu hyfforddiant i staff yn y blanhigfa yn unol â’r wybodaeth gyfredol, gan helpu i ddatblygu a hyfforddi staff gyda gwybodaeth ar lefelau amrywiol.
- Darparu sesiynau trosglwyddo gwybodaeth i dyfwyr mewn digwyddiadau cymdeithasau tyfu drwy Tyfu Cymru, hefyd yn gweithio o bell dros Zoom a Microsoft Teams.
- Erthyglau technegol mewn cyhoeddiadau o fewn y diwydiant megis AHDB grower, a Commercial Greenhouse grower.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- BSc (Anrh.) Garddwriaeth Fasnachol.
- Aelod proffesiynol cofrestredig o BASIS
- Aelod proffesiynol cofrestredig o FACTS
- 16 mlynedd o brofiad gydag ADAS
Awgrym /Dyfyniad
"Byddwch yn barod i addasu’n barhaus (e.e. i newidiadau mewn dulliau diogelu cnydau a chyfryngau tyfu) er mwyn cynhyrchu stoc o ansawdd da."