Enw

David Talbot

Lleoliad

Swydd Worcester

Prif Arbenigedd

Cnydau addurnol, maeth cnydau, cyfryngau tyfu, opsiynau gwahanol i fawn, cnydau bioddiogelu (rheoli plâu, clefydau a chwyn).

Sector

Cynhyrchu cnydau garddwriaeth addurnol

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Uwch ymgynghorydd profiadol a medrus sydd ar hyn o bryd yn cefnogi cynhyrchu cnydau masnachol ar raddfa fawr.
  • Mae ganddo ddealltwriaeth ymarferol o’r sector garddwriaeth ar ôl gweithio mewn amrywiaeth o blanigfeydd masnachol ers iddo fod yn ifanc. 
  • Dealltwriaeth fanwl o’r diwydiant cnydau addurnol a’r ffactorau sy’n ei sbarduno.
  • Gwybodaeth arbenigol am gnydau bioddiogelu (gan gynnwys rheolaeth fiolegol) ac agweddau eraill ar reoli plâu, clefydau a chwyn.
  • Mynediad at rwydwaith eang o sgiliau ategol e.e. cydweithwyr arbenigol yn gweithio ym maes entomoleg, patholeg a ffisioleg.
  • Darparu hyfforddiant i staff yn y blanhigfa yn unol â’r wybodaeth gyfredol, gan helpu i ddatblygu a hyfforddi staff gyda gwybodaeth ar lefelau amrywiol.
  • Darparu sesiynau trosglwyddo gwybodaeth i dyfwyr mewn digwyddiadau cymdeithasau tyfu drwy Tyfu Cymru, hefyd yn gweithio o bell dros Zoom a Microsoft Teams.
  • Erthyglau technegol mewn cyhoeddiadau o fewn y diwydiant megis AHDB grower, a Commercial Greenhouse grower. 
     

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • BSc (Anrh.) Garddwriaeth Fasnachol.
  • Aelod proffesiynol cofrestredig o BASIS 
  • Aelod proffesiynol cofrestredig o FACTS 
  • 16 mlynedd o brofiad gydag ADAS
     

Awgrym /Dyfyniad

"Byddwch yn barod i addasu’n barhaus (e.e. i newidiadau mewn dulliau diogelu cnydau a chyfryngau tyfu) er mwyn cynhyrchu stoc o ansawdd da."