Cam 1: Adolygiad Olyniaeth

Cymryd stoc o’ch asedau a deall eich sefyllfa dreth bresennol gyda chyfreithiwr cymwys.

  • Rhoi gwybodaeth am asedau eich busnes trwy holiadur a fydd yn cael ei anfon yn syth at gyfreithiwr o’ch dewis.
  • Derbyn galwad ffôn (os bydd angen) gan gyfreithiwr am gwestiynau eglurhaol.
  • Bydd adroddiad byr yn cael ei gynhyrchu yn manylu ar 4 neu 5 pwynt gweithredu.
  • Canlyniad y gwasanaeth fydd cadarnhau’r sefyllfa dreth gyfredol ac amlinellu unrhyw gamau / cyngor pellach sydd eu hangen a phryd.

CYMHWYSEDD: Pob busnes yn gymwys. Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer perchnogion fferm sy’n berchen ar yr asedau. Gallai’r asedau hynny gynnwys tir, da byw, peiriannau neu asedau arallgyfeirio. Gellir adolygu ystâd hyd at 2 unigolyn.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu Adolygiad Olyniaeth cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu Canolfan Wasanaethau Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813. Fel arall, cysylltwch â'n Hwylusydd Olyniaeth ymroddedig. Eiry Williams - 07985155670 / eiry.williams@mentera.cymru