21 Tachwedd 2024

Mae treialu gwahanol dechnegau ar gyfer tyfu pwmpenni yn ystod tymor cyntaf menter arallgyfeirio casglu-eich-hun (PYO) ar fferm wedi helpu busnes newydd ddyfodiaid i reoli risg yn y flwyddyn gyntaf allweddol, gan hefyd lywio penderfyniadau ar gyfer tymor 2025.

Mae Cyswllt Ffermio wedi darparu cyngor a chyllid wedi i  Matt Brooks a Laura Pollock benderfynu ehangu eu menter 114 erw i faes garddwriaeth.

Cymerodd y pâr denantiaeth ar un o ffermydd Cyngor Sir Fynwy, Lower House Farm, yn Llanfair Disgoed ym mis Chwefror 2023.

Nid oedd gan yr un ohonynt gefndir teuluol mewn ffermio, ond roedd Matt wedi gweithio ym myd amaeth ers gadael yr ysgol ac roedd ganddo uchelgais i ffermio ar ei liwt ei hun. Roedd gyrfa Laura yn canolbwyntio ar seicoleg busnes a datblygu timau, ond roedd yn rhannu angerdd Matt dros gynhyrchu bwyd.

“Nid oeddem yn sylweddoli ar y pryd bod ffermydd tenant yn bodoli, ac fe agorodd hyn ddrysau i gyfle newydd i ni ddechrau ffermio, felly fe wnaethom ni ddechrau ymgeisio am denantiaethau,” eglurodd Laura.

Mae eu daliad glaswelltir, y maent yn ei ffermio’n unol ag egwyddorion ffermio adfywiol, yn cadw cymysgedd o wartheg stôr a lloi, defaid a moch, gyda rhai o’r rhain yn cyflenwi eu busnes gwerthu cig yn uniongyrchol i’r cwsmer, sy’n parhau i dyfu.

Er mwyn arallgyfeirio eu hincwm, roedd y  pâr yn awyddus i sefydlu menter a oedd yn cyfuno garddwriaeth gyda chroesawu ymwelwyr i’r fferm.

Roedd sefydlu ardal ar gyfer casglu pwmpenni ar 1.5 erw yn cynnig y cyfle hwnnw, ond heb lawer o brofiad o dyfu cnydau arbenigol, roedd angen cymorth a chyfarwyddyd pellach.

Dewiswyd Lower House Farm gan Cyswllt Ffermio fel rhan o’r rhwydwaith Ein Ffermydd, a lluniwyd arbrawf wedi’i lunio o amgylch syniadau Laura a Matt ar gyfer menter casglu pwmpenni.

Gyda chyngor a chyfarwyddyd gan Chris Creed, Ymgynghorydd ADAS, wedi’i ariannu’n llawn drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, ynghyd â chymorth gan Hannah Norman, swyddog sector garddwriaeth Cyswllt Ffermio, buont yn treialu gwahanol dechnegau sefydlu – drilio’r hadau’n uniongyrchol, plannu planhigion pwmpen wedi’u prynu i mewn a thyfu eu planhigion eu hunain o had.

Drilio uniongyrchol oedd y dull lleiaf dwys o ran amser, ond oherwydd graddnodi anghywir, roedd sefydliad y cnwd yn anghyson.

“Dyma’r planhigion a fu’n dioddef fwyaf. Fe wnaethom ni ddysgu bod angen gosod popeth yn gywir gyda’r dril i sicrhau’r gwasgariad gorau posibl, ond o safbwynt cost ac amser, dyma oedd y ffordd fwyaf ymarferol o wneud y gwaith,” meddai Laura.

“Fe wnaeth y planhigion a dyfwyd gennym ni a’r rhai a brynwyd i mewn dyfu’n eithaf da ar y cyfan.”

Ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae’n credu y byddai cyfuniad o ddulliau sefydlu yn synhwyrol. “Efallai y dylai hynny gwmpasu popeth os cawn ni dymor tyfu anodd unwaith eto.”  

Cafwyd cnwd o 2,700 o bwmpenni a gwrdiau ar yr ardal 1.5 erw.

Perfformiodd y gwrdiau yn arbennig o dda, gyda phob planhigyn yn cynhyrchu tri neu bedwar ffrwyth, gyda rhywogaeth ‘Atlantic Giant’ yn dangos y perfformiad gwaethaf.

Rheoli chwyn oedd yr her fwyaf. Mae’r pâr yn osgoi defnyddio chwistrelli a matiau plastig, ond ar ôl profi baich chwyn sylweddol, maent yn chwilio am atebion sy’n addas o safbwynt ymarferol ac amgylcheddol ar gyfer y dyfodol.

“Roedd y chwyn yn dominyddu, ond roedd modd i ni docio’r chwyn yn fecanyddol, a oedd yn dipyn o help,’’ eglurodd Laura.

Ar gyfer y flwyddyn nesaf, bydd stribedi o laswellt yn cael eu gadael rhwng y rhesi fel mai dim ond yr ardal o amgylch y pwmpenni fydd angen eu chwynnu, yn hytrach na’r cae cyfan.

Byddant hefyd yn cyflwyno stribedi peillio.

Mae agor eu fferm i’r cyhoedd ar gyfer y tymor casglu wedi darparu incwm gwerthfawr i Matt a Laura, ond maent hefyd wedi mwynhau’r profiad o addysgu pobl am ffermio, gan rannu eu llawenydd o dreulio amser ar y fferm.

“Mae gweld y wên ar wynebau plant wrth iddynt ddod i’r fferm wedi bod yn hyfryd, ac rydym hefyd wedi gweld hynny ymysg y genhedlaeth hŷn,” meddai Laura.

“Mae rhai wedi dod â’u teidiau a’u neiniau sydd wedi bod yn hel atgofion am ymweld â ffermydd pan oeddent yn blant. Cawsant foddhad go iawn o dreulio amser yma.’’

Mae casgliad o anifeiliaid, o wartheg Belted Galloway a gwartheg yr Ucheldir i ieir a defaid, yn ychwanegu at brofiad yr ymwelwyr.

Mae capasiti parcio yn cyfyngu nifer yr ymwelwyr i 20 cerbyd ar y mwyaf ym mhob slot 90 munud, ac mae Laura yn dweud bod hynny’n fuddiol mewn rhai ffyrdd.

“Nid yw’n mynd yn rhy brysur a gallwch dreulio mwy o amser yn siarad gyda phobl, maen nhw’n gwerthfawrogi’r tawelwch ar y fferm.’’

Mae hi’n ddiolchgar iawn i Cyswllt Ffermio am eu cymorth.

“Mae pawb yr ydym wedi cael cyswllt â nhw drwy raglen Cyswllt Ffermio wedi bod yn wych. Mae yna grŵp WhatsApp hyd yn oed ar gyfer tyfwyr pwmpenni, sy’n adnodd gwerthfawr iawn o ran cymorth a chyngor”.
    
Bydd adroddiad llawn o’r arbrawf ar gael yn fuan.  Am ragor o adnoddau a gwybodaeth yn ymwneud ag arallgyfeirio i arddwriaeth, ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch gyda’r Swyddog Sector Garddwriaeth, Hannah Norman hannah.norman@mentera.cymru


Related Newyddion a Digwyddiadau

Agrisgôp yn helpu i dyfu busnes arallgyfeirio llwyddiannus ar fferm
28 November 2024 Mae’r chwe blynedd diwethaf wedi bod yn daith
Syniad arloesol yn ennill prif wobr Her Academi Amaeth Cyswllt Ffermio
25 Tachwedd 2024 Mae aelodau carfan Academi Amaeth Cyswllt
Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o