Enw

Mailys Chezaud

Prif Arbenigedd

De Cymru

Sector

Da byw

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Mae gan Mailys ddealltwriaeth dda o’r diwydiant dofednod a systemau cynhyrchu, ac mae wedi datblygu profiad ymarferol ar ffermydd drwy ei hastudiaethau. Mae’n aelod o’r tîm dofednod yn ADAS.
  • Mae ganddi brofiad o gyflawni adolygiadau busnesau fferm. Mae Mailys yn cwblhau adolygiadau busnes ar ran ffermwyr yn Lloegr fel rhan o’r Gronfa Cydnerthedd Ffermio’r Dyfodol, a bu’n rhan o’r tîm a fu’n casglu data ar lefel y fferm ar arferion a systemau lles anifeiliaid i lywio datblygiad polisi ar gyfer rhaglenni taliadau cymorth y dyfodol, gan ganolbwyntio’n benodol ar fentrau dofednod a moch.
  • Mae gan Mailys brofiad a gwybodaeth helaeth am iechyd a lles anifeiliaid o ganlyniad i fod yn rhan o sawl prosiect yn canolbwyntio ar glefydau a’u lledaeniad. 
  • Mae ganddi brofiad o lunio costau cynhyrchu ar ran ffermwyr o fewn y diwydiant. Mae hi’n un o ddarparwyr allweddol y costau ar gyfer Ranger a’r cardiau cyfraddau dofednod. Caiff y rhain eu defnyddio gan y diwydiant ar lefel genedlaethol ar gyfer darparu gwerth mewn achosion o glefydau ar fentrau dofednod.
  • Mae Mailys yn ungiolyn hawdd i siarad â hi, gyda meddwl agored ac yn benderfynol yn ei hymdrechion i ddarparu gwasanaethau ymgynghori o safon uchel i ystod eang o fentrau da byw.
     

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • MSc Gwyddor Anifeiliaid, Prifysgol Wageningen (Yr Iseldiroedd)
  • MSc Eurama (Rheolaeth Anifeiliaid a Chynaliadwyedd Ewropeaidd)
  • MSc Amaethyddiaeth, Agronomeg a Gwyddor Amgylcheddol (gradd Peiriannydd)

Awgrym /Dyfyniad

“Mae treulio amser gyda chleient yn werthfawr - dim ond drwy wneud hyn y gallwch ddeall y prif faterion a’r cymhellion ar gyfer y busnes hwnnw. Nid yw’r rhain bob amser yn amlwg.”