Enw
Marc Jones
Lleoliad
Y Trallwng
Prif Arbenigedd
Bîff a Defaid, Busnes, Glaswelltir, Ffermio Adfywiol, Gaeafu anifeiliaid allan
Sector
- Bîff
- Defaid
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
- Ymgynghorydd fferm a rheolwr fferm profiadol gyda gwybodaeth dechnegol ardderchog o’r diwydiant bîff a defaid. Mae gen i agwedd ymarferol ac rwy’n gallu cyflwyno syniadau a systemau newydd ar ffermydd i alluogi busnesau i fod yn fwy proffidiol a chynaliadwy.
- Rydw i wedi datblygu arbenigedd glaswelltir, porthiant a gaeafu anifeiliaiad allan ardderchog trwy gyflawni prosiectau ymchwil ar ffermydd, teithiau astudio i Seland Newydd a gweithio gyda Cyswllt Ffermio ac AHDB i ddatblygu a monitro eu ffermydd arddangos strategol.
- Rydw i wedi gweithio gyda channoedd o ffermwyr i gymryd samplau pridd a thail i ddatblygu cynllunio rheoli maetholion a gwrtaith ar gyfer eu ffermydd.
- Mae gen i sgiliau cyfathrebu gwych wedi’u datblygu trwy gynnal digwyddiadau ar ffermydd, cyfarfodydd gyda’r nos a gweminarau ar-lein. Bu dros 500 o ffermwyr yn ymweld â’i fferm y llynedd wrth iddo arddangos y systemau pori a gaeafu.
- Rydw i’n arbenigo mewn systemau bîff a defaid ar borthiant, ac yn gweithio gyda ffermwyr yn benodol i ddatblygu systemau ŵyna yn yr awyr agored yn seiliedig ar bori cylchdro a chnydau’r gaeaf. Rwy’n gweithio’n agos gyda ffermwyr yn y sector bîff llaeth lle mae ffermwyr yn cadw lloi o’i diddyfnu hyd at eu pesgi. Rydw i’n canolbwyntio ar reoli glaswelltir yn dda, gaeafu allan lle bo hynny’n bosibl, a chynhyrchu silwair yn effeithiol ar gyfer buchesi sy’n cael eu cadw dan do. Rydw i hefyd yn gweithio gyda ffermwyr sy’n cadw heffrod llaeth bridiau croes, gan ddarparu cyngor yn canolbwyntio ar laswellt a phorthiant.
- Rydw i’n rheoli’r fferm deuluol i safon uchel ac rydw i wedi derbyn cydnabyddiaeth ar ffurf nifer o wobrau’r diwydiant, gan gynnwys yn fwyaf diweddar cael fy enwi’n aelod cyswllt o’r Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol a Ffermwr Tir Glas y Flwyddyn Cymdeithas Tir Glas Prydain yn 2021.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- BSc (Anrh.) Amaethyddiaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad
- Cymhwyster FACTS Rhif: FE/3942
- Tystysgrif BASIS Priddoedd a Dŵr: SW/532
- Ysgolhaig Hybu Cig Cymru (2009)
- Worshipful Company of Farmers (2011) Rhaglen Uwch Rheoli Ffermydd.
- Astudiaeth Betys Porthiant yn Seland Newydd (2019)
- Gwobrau Tir Âr a Glaswelltir Cenedlaethol – Rheolwr Tir Glas y Flwyddyn (2023)
- Cymdeithas Tir Glas Prydain – Ffermwr Tir Glas y Flwyddyn (2021)
- Aelod cyswllt o’r Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol (2019)
- Ffermwr Ifanc y Flwyddyn Farmers Weekly (2014)
- Gwobr Cymdeithas Defaid Cenedlaethol Cymru (2010)
Awgrym /Dyfyniad
“Ymunwch â grŵp trafod – byddwch yn dysgu cymaint gan ffermwyr eraill o fewn y grŵp a’r ffermydd y byddwch yn ymweld â nhw. Byddwch yn gweld y rhannau da a drwg o fusnesau a fydd yn eich galluogi i ddewis yr hyn a fydd yn gweithio ar gyfer eich busnes chi.”