Enw

Anthony W B Turner

LLleoliad

Swydd Stafford

Prif Arbenigedd

Ymgynghori Busnes

Sector

  • Pob sector

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • 46 mlynedd o brofiad yn cynghori ffermwyr a thyfwyr.
  • Cefais fy magu ar fferm a bûm yn gweithio arni, felly mae gen i ddealltwriaeth dda iawn o agweddau ymarferol ym myd amaeth.
  • Rydw i wedi gweithio gyda nifer o fusnesau ers dros 30 mlynedd ac o ganlyniad, mae gen i ddealltwriaeth ardderchog o ddyheadau, sgiliau a ffyrdd o reoli gwahanol genedlaethau er mwyn sicrhau llwyddiant mewn busnes.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
  • Dealltwriaeth ardderchog o agweddau technegol yn ymwneud â systemau cynhyrchu da byw a chnydau, yn ogystal â’r hyn sydd ei angen er mwyn i fusnesau fod yn hyfyw’n ariannol.
  • Dealltwriaeth dda o systemau cyfrifeg ac ariannol, a’r hyn sydd ei angen ar fenthycwyr trydydd parti er mwyn benthyg arian i fenthycwyr. Wrth weithio gyda chleientiaid, rydw i’n ymdrechu i gysylltu gyda’r partneriaid, y cyfrifydd a’r rheolwr banc, i sicrhau bod pawb sy’n rhan o’r broses yn tynnu tua’r un cyfeiriad.
  • Rydw i wedi galluogi nifer o fusnesau i dyfu ac i gyflawni eu dyheadau personol ac ariannol.
  • Rwy’n deall yr heriau sy’n wynebu busnesau yn yr hinsawdd anodd sydd ohoni gyda phrisiau mewnbynnau ac allbynnau’n newid yn rheolaidd. Rwyf hefyd yn deall yr heriau o ran deddfwriaeth (llai o gymorth gan y llywodraeth a’r angen i leihau llygredd dŵr gwasgaredig mewn amaeth) ac i gyflawni targedau newid yn yr hinsawdd.
  • Profiadol wrth gyfathrebu gyda rheolwyr banc a chyfrifwyr.
  • Rydw i wedi helpu DEFRA a Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau o ganlyniad i ddealltwriaeth dda o’u blaenoriaethau. 

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • BSc Anrh. – Amaeth, Prifysgol Reading 
  • Facts –FIS033433
  • Basis 20021713
  • Basis Pridd a Dŵr SW/574
  • Basis Diogelu cnydau EC/0/399/m
  • Basis Rheoli cadwraeth cm/229
  • PRINCE2 Sylfaenol P2R/759011 Medi 2010 

Awgrym /Dyfyniad

“Wrth gynllunio neu gyflwyno newid i system ffermio, dylech lunio cyllideb o ran yr hyn yr ydych chi’n gwybod y gallwch ei gyflawni gyda’r sgiliau a’r adnoddau sydd ar gael i chi, fel bod eich targedau’n realistig ac yn gyraeddadwy. Dylech hefyd gynnal prawf sensitifrwydd er mwyn gwybod effaith newidiadau o ran perfformiad a phris. ”