17 Ionawr 2025

 

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, wedi llongyfarch pob un o’r enillwyr a’r enwebeion ar gyfer Gwobrau Lantra Cymru 2024. Wrth fynychu’r gwobrau eleni (16 Ionawr) a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod Wells, disgrifiodd y Dirprwy Brif Weinidog ymgeiswyr eleni fel ‘y gorau o’r goreuon’, y mae eu cyfraniad i sectorau sy’n ymwneud â’r tir a ffermio yng Nghymru yn gwneud cymaint i helpu i foderneiddio a diogelu dyfodol y diwydiant.

“Mae eich proffesiynoldeb, eich parodrwydd i groesawu arloesedd a thechnolegau newydd a'ch ymrwymiad i ddatblygiad personol a datblygiad busnes eisoes yn cyfrannu'n fawr at ffermio cynaliadwy yng Nghymru. Mae hyn nid yn unig yn helpu i feithrin gallu ond hefyd yn creu’r newid sylweddol mewn ymddygiad a fydd yn rhan hanfodol o’n Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd maes o law,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog.

Mae’r Gwobrau, sy’n dathlu deng mlynedd ar hugain, yn cydnabod cyflawniadau dysgu gydol oes gweithwyr y mae eu gwaith caled, eu sgiliau a'u gallu o fudd nid yn unig i amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth ond i'r agenda gwledig ehangach yng Nghymru, i'r economi wledig ac i'r cymunedau lle maent yn byw ac yn gweithio.

“Mae ymrwymiad clir pob enwebai i ddatblygiad proffesiynol parhaus a'u cyflawniadau unigol o fewn y sectorau amgylcheddol a’r sectorau sy’n ymwneud â’r tir yn hynod bwysig i'n diwydiant.

“Yr awydd hwn i ddysgu, eich hyder yn eich gallu eich hun a’ch parodrwydd i arloesi a defnyddio technolegau newydd, sydd mor werthfawr nid yn unig i’ch llwybr gyrfa eich hun ond i gynaliadwyedd, proffesiynoldeb a moderneiddio amaethyddiaeth Cymru.

“Rydych chi'n dilyn ôl troed rhai o ffermwyr, pobl stoc, llysgenhadon diwydiant ac arbenigwyr gwledig mwyaf llwyddiannus ac effeithiol Cymru - y gorau o'r goreuon!  Mae pob un ohonoch wedi dangos y rhinweddau a’r sgiliau sydd eu hangen i gael eich enwebu, ac mae’n amlwg bod gennych chi’r gallu arbennig i gael eich dewis,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog.

Roedd y gwobrau eleni yn gyfle i bawb yn y diwydiant roi teyrnged i gyflawniadau'r myfyrwyr a'r hyfforddeion a enwebwyd. Bu i gynrychiolwyr o sefydliadau rhanddeiliaid gwledig allweddol, ynghyd â llawer o’r darparwyr hyfforddiant sy’n ymwneud â’r tir a cholegau gwledig Cymru a gymeradwywyd i ddarparu Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ymuno â’r Dirprwy Brif Weinidog a’r rhai sy’n gweithio yn y sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth ledled Cymru.

Yn ystod y digwyddiad, cyflwynodd y Gweinidog ddwy wobr arbennig. Dyfarnwyd Gwobr Goffa Brynle Williams eleni i’r ffermwr ifanc Dafydd Elfyn Owen o Landdoged, ger Abergele. Mae Mr Owen, a gafodd ei gefnogi trwy fenter 'Dechrau Ffermio' Cyswllt Ffermio (rhaglen Mentro gynt) ac a ddisgrifiwyd fel ffermwr ifanc 'ardderchog' a 'llysgennad ysbrydoledig i newydd-ddyfodiaid', bellach mewn partneriaeth menter ar y cyd yng Ngogledd Cymru lle mae ei fewnbwn strategol a’i waith rheoli o ddydd i ddydd yn galluogi ei bartneriaid ffermio cyfran newydd i barhau ar eu taith tuag at ddyfodol ffermio cynaliadwy ac adfywiol.

Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd fod Gwobr Cyfraniad Oes Lantra Cymru ar gyfer 2024 yn cael ei dyfarnu i adnabyddus, wedi’i dyfarnu i Stephen James FRAgS o fferm Gelliolau, Clunderwen, Sir Benfro. Mae Stephen yn ffermwr llaeth adnabyddus, yn gadeirydd Grŵp Llywio Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, yn ffigwr blaenllaw ym myd amaeth ac yn bencampawr materion gwledig.

Mae rhestr lawn o holl enillwyr Gwobrau Lantra Cymru 2024 ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio gwasgwch yma 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn