Glyn Arthur Diweddariad ar y prosiect – Rhagfyr 2024
Beth sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn?
- Arolwg Coetir a Chynllunio
- Mae adolygiad a chynllun rheoli coetir wedi cael eu cwblhau i arwain y strategaeth adfer.
- Mae’r broses o ymgeisio am drwydded cwympo coed ar waith, i sicrhau cydymffurfiaeth gyda gofynion rheoleiddio.
- Mentrau Rheoli Coetiroedd
- Mae gwaith synhwyro o bell yn cael ei wneud i asesu cyflwr presennol y coetir ac i gefnogi ymyriadau penodol.
- Cynllun rheoli coetir yn amlinellu strategaethau i wella bioamrywiaeth, gwella iechyd coed, a hybu adferiad.
- Archwilio Cyfleoedd Plannu
- Trafodaethau parhaus ynglŷn â chyfleoedd plannu, gan gynnwys arferion amaeth goedwigaeth megis:
■ Coed unigol mewn porfeydd.
■ Gwella gwrychoedd presennol.
■ Sefydlu lleiniau cysgod i ddarparu cysgod ac i warchod rhag y gwynt. - Bydd unrhyw fentrau plannu yn cyd-fynd â gofynion y fferm, gan ganolbwyntio ar fuddion ymarferol megis mwy o gysgod i dda byw a chynyddu gwytnwch amgylcheddol.
- Trafodaethau parhaus ynglŷn â chyfleoedd plannu, gan gynnwys arferion amaeth goedwigaeth megis:
Camau Nesaf
- Cwblhau’r cais am drwydded cwympo coed a dechrau ar unrhyw waith sydd wedi’i gymeradwyo.
- Parhau gyda gweithgareddau synhwyro o bell ac integreiddio’r canfyddiadau i’r cynllun rheoli.
- Datblygu cynnig plannu amaeth goedwigaeth manwl sy’n cefnogi nodau ecolegol a gweithredol y fferm.