Rhiannon James

GOGLEDD PENFRO 


Rhiannon James yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Gogledd Sir Benfro. Mae hi’n cyfuno’r rôl hon â’r gwaith o fod yn wraig fferm, yn fam i dri o blant, a chynorthwyo â dyletswyddau beunyddiol y fferm.

Cafodd Rhiannon ei magu ar fferm laeth ei theulu yn Llawhaden. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyfunodd ei rôl flaenorol fel newyddiadurwraig dechnegol arbenigol gyda Chyswllt Ffermio â’r gwaith o gynorthwyo ar fferm laeth a gwartheg sugno gymysg ei gŵr ym Mhont Fadlen, ger Hwlffordd, cyn cael ei phenodi’n swyddog datblygu.

“Fy rôl yw cyfeirio ffermwyr a choedwigwyr at wasanaethau a phrosiectau niferus Cyswllt Ffermio, sydd oll wedi’u llunio i gynorthwyo i weddnewid effeithlonrwydd a chynhyrchiant busnesau.

“Mae’n hollbwysig sicrhau fod busnesau gwledig yn elwa’n llawn o’r cymorth sydd ar gael iddynt i sicrhau y byddant yn gydnerth ac yn gynaliadwy yn y dyfodol.”

Picture of Rhiannon James