Cynyddu gwytnwch i sychder yn yr haf – treialu maglys rhuddlas

Roderick, Fferm Newton, Aberhonddu

Bydd y prosiect yn anelu at fonitro sefydlu a rheoli cnwd maglys rhuddlas sy’n gallu gwrthsefyll sychder, a allai gynorthwyo ffermydd Cymru i wrthsefyll hafau sychach mynych. Bydd ŵyn yn pori’r cnwd a bydd eu perfformiad yn cael ei gymharu â gwndwn rhygwellt a meillion traddodiadol. Cesglir data ar gynnyrch cnydau, perfformiad ac iechyd ŵyn, ynghyd â dadansoddiad economaidd o’r ddau gnwd. Bydd y prosiect Cyllid Arbrofi hwn yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  •        Ffermydd cydnerth a chynhyrchiol    
  •        Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maetholion a gwastraff    
  •        Lleihau allyriadau fferm a dal a storio mwy o garbon    
  •        Diogelu a gwella ecosystem y fferm    

Dewis caeau

Mae maglys rhuddlas angen priddoedd sy’n draenio’n rhydd gyda pH dros 6.0 ar ddyfnder. Mae dau gae cyfagos gyda phriddoedd sy’n addas ar gyfer tyfu maglys rhuddlas wedi cael eu dewis ar Fferm Newton ynghyd â blociau pori eraill. Mae hyn galluogi cadw ardal o laswellt wrth gefn ar gyfer pontio wrth gyflwyno stoc ac addasu i’r cyfraddau stocio yn yr arbrawf – os oes angen. 

 

Dadansoddiad o’r pridd

 

Rheoli chwyn cyn hau maglys rhuddlas

Yn ystod archwiliad o’r cae cyn hau, gwelwyd fod dail tafol wedi sefydlu. Gohiriwyd yr hau i ganiatáu digon o amser i ladd digon o rannau o’r dail yn effeithiol gyda chwynladdwr.

 

Hau o dan gnwd gorchudd o haidd

Er mwyn sicrhau’r cynnyrch deunydd sych gorau posibl yn ystod y tymor hau (2024) penderfynodd y teulu Roderick hau’r maglys rhuddlas gyda chnwd gorchudd o Haidd Gwanwyn (a arbedwyd gartref) ar gyfradd o 100 kg/ha (40kg/ac). Yna cafodd hwn ei dorri’n silwair gwyrdd 50% maglys rhuddlas, 50% haidd ar 11 Awst 2024. Ar adeg byrnu, rhoddwyd inocwleiddiad i sicrhau’r eplesiad gorau posibl. 

 

Hau

 

Cafodd yr hadau haidd eu drilio ar ddyfnder o 35-30mm cyn hau’r maglys rhuddlas. 

Mae angen i hadau maglys rhuddlas gael eu drilio’n fas neu eu gwasgaru ar 10-15mm, gan ddefnyddio rholiwr Caergrawnt i’w cyfuno.

 

Cae 1- dyddiad hau: 6 Mehefin 2024 (hau’n hwyrach o ganlyniad i nyth gylfinir yn y cae)

Cae 2- dyddiad hau: 10 Mai 2024                   

Gwasgarwyd calch ar gyfradd o 5t/ha cyn hau.        

 

Dewis amrywiaethau maglys rhuddlas a glaswellt

 

Mae dau wahanol fath yn cael eu gwerthuso. Un math dyfalbarhaus a chynhyrchiol iawn ar gyfer torri, sef Artemis a math arbenigol ar gyfer pori, sef Luzelle.

Mae maglys rhuddlas yn gnwd agored iawn. Mewn ardaloedd o lawiad uchel, ceir risg sylweddol o botsio. Gall hyn arwain at gyflwyno chwyn, yn enwedig glaswelltau chwyn a dirywiad cynnar o ran cynnyrch.

 

Er mwyn lleihau’r risg, heuwyd cnwd cyfatebol o laswellt a meillion gwyn. Mae’n bwysig nad yw’r glaswelltau’n cystadlu’n ormodol gyda’r maglys rhuddlas. Dim ond rhywogaethau penodol sy’n addas. Heuwyd caeau’r arbrawf gyda chymysgedd o’r amrywiaeth a ddewiswyd (ar y gyfradd lawn) gyda maglys rhuddlas yn dominyddu, ynghyd â 4kg/ha o ronwellt newydd dwys iawn, sef Baronaise a 2 kg/ha S184 sef meillion gwyn gyda dail bychain iawn.

 

Cyfradd hau

 

Y gyfradd hau a argymhellir ar gyfer maglys rhuddlas yng ngogledd Ewrop yw 20kg/ha (c8.0 kg/erw) ac fel arfer 25kg/ha (c10kg/erw) ar gyfer hadau â chaenen. Mae’r gyfradd hau ar gyfer yr arbrawf hwn i’w gweld yn y tabl isod (Cyfradd hau/hectar).

Cae 1 5.3 Ha

Cae 2 1.6 Ha 

25 kg Maglys Rhuddlas Luzelle (gyda chaenen) 

4.0 kg Rhonwellt Baronaise 

2.0 kg Meillion Gwyn S184 

25 kg Maglys Rhuddlas Artemis (gyda chaenen) 

4.0 kg Rhonwellt Baronaise 

2.0 kg Meillion Gwyn S184

31.0 kg/ha @ £381.65 (£154.45)

31.0 kg/ha @ £269.00 (£108.86/acre)

Dadansoddiad costau: Roedd argaeledd rhai o’r amrywiaethau a ddefnyddiwyd yn yr arbrawf yn heriol yn 2024. Roedd yr hadau Luzelle yn anarferol o ddrud, ac fe ychwanegwyd £12.00/ha ar gyfer yr inocwleiddiad ychwanegol. Byddai cyllideb o £250/ha ar gyfer cymysgedd debyg yn addas.  £219/ha (£90.87/ha ar gyfer Maglys Rhuddlas ar ei ben ei hun).

 

Bacteria Rhisobiwm

Yn wahanol i feillion coch a gwyn, nid yw’r rhywogaethau rhisobiwm sy’n gysylltiedig â maglys rhuddlas yn ymddangos yn naturiol yn y rhan fwyaf o briddoedd yn y DU, ac mae angen inocwleiddio hadau Maglys Rhuddlas gyda’r bacteria hwn. Mae’r rhan fwyaf o hadau yn y DU yn cael eu hinocwleiddio ymlaen llaw, ond nid yw’r inocwleiddiad yn goroesi am lawer o fisoedd. Roedd y ddau fath o faglys rhuddlas a heuwyd wedi’u hinocwleiddio ymlaen llaw. 

 

Rheoli’r borfa 

Ar 3 Hydref, 53 diwrnod ar ôl torri’r cnwd i gynhyrchu byrnau, cyflwynwyd 400 o ŵyn yn pwyso 37kg ar gyfartaledd i’r cnwd i ddechrau’r cylchdro pori.  Mae’r caeau wedi cael eu rhannu gyda ffens drydan i osgoi gorbori a photsio.

Bydd y caeau’n cael eu pori unwaith cyn eu cau ar gyfer y gaeaf yn barod ar gyfer pori mamogiaid ac ŵyn yn y gwanwyn.