Gelli Goll Diweddariad ar y prosiect - Ionawr 2025
Beth sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn?
Cafodd y cnwd ei gynaeafu ar 30 Gorffennaf 2024.
Gellir gweld dadansoddiad o’r cnwd yn nhabl 1.
Tabl 1. Dadansoddiad o silwair cnwd cyfan
| Canlyniadau isgoch agos (NIR) |
% Deunydd sych (DM) | 25.4 |
Gwerth D | 60.7 |
Egni Metaboladwy (ME) Mj/Kg Deunydd Sych (DM) | 9.7 |
% Protein Crai | 9.1 |
% Ffibr NDF | 46.1 |
% Starts | 17.2 |
Roedd y protein ychydig yn is nag y byddem wedi’i obeithio, sef 9.1% CP.
Mae 55 o wartheg yn cael eu bwydo ar gymysgedd o silwair glaswellt a Combicrop sy’n cyfateb â 18kg/pen o laswellt a Combicrop (grawn y gwanwyn a phys y gwanwyn y gellir eu combeinio) a 3.5kg o haidd wedi’i rolio wedi’i rannu’n ddau gyfnod borthiant.
Camau nesaf -
Trwy weithio gyda Hefin Richards, Rumenation, trafodwyd y byddai modd cynyddu’r protein presennol yn y diet. Mae opsiynau er mwyn cyflawni hyn yn cynnwys:
defnyddio hylif llawn protein yn seiliedig ar driagl y gellid ei dywallt dros y porthiant yn y peiriant dyrannu porthiant a gwellt neu ar ôl bwydo
defnyddio ychydig o flawd rêp a byddai modd bwydo hwn gan ddefnyddio’r peiriant dyrannu porthiant a gwellt gyda’r cnwd cyfan a’r silwair.
cynyddu protein silwair glaswellt drwy edrych ar gynnwys meillion y gwndwn, dyddiad torri a faint o brotein sy’n cael ei gadw yn ystod y broses eplesu.
Bydd enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) y gwartheg yn cael ei fonitro dros fisoedd y gaeaf.