Dyfi Dairy - Adroddiad llawn

Paratowyd yr adroddiad canlynol gan Sam Wren-Lewis a Sophia Morgan-Swinhoe.

Cefndir

Ar ôl symud ein buches laeth i fferm fynydd 117 erw ger Machynlleth, rydym yn awyddus i addasu ac integreiddio dulliau newydd o reoli er budd hirdymor i’r pridd a’r amgylchedd. Mae’r fferm yn cynnwys rhygwellt parhaol yn bennaf, sydd wedi bod yn ddibynnol ar wrtaith nitrogen yn y gorffennol. Gan fod costau gwrtaith nitrogen yn cynyddu, a bod tystiolaeth i awgrymu bod dibynnu ar ddefnyddio gwrtaith yn effeithio’n negyddol ar iechyd y pridd yn yr hirdymor, mae ffermwyr yn chwilio mwy a mwy am ffyrdd o osgoi defnyddio gwrtaith gan hefyd hybu iechyd y pridd a bioamrywiaeth ar eu ffermydd. Mae sefydlu gwndwn llysieuol wedi cael ei nodi fel ffordd bwysig o sefydlogi nitrogen a gwella iechyd y pridd.

Mae gennym ddiddordeb yn y cyfle sy’n codi o ddrilio gwndwn llysieuol yn uniongyrchol fel ffordd o gynnal cynhyrchiant ynghyd â chyflawni nifer o fuddion ychwanegol, megis gwella iechyd y pridd, iechyd da byw, cynhyrchu porthiant maethlon, atafaelu carbon, cadw dŵr yn y pridd, y gallu i wrthsefyll sychder, a bioamrywiaeth. Mae’r buddion ychwanegol hyn yn alinio’r prosiect gyda Chynllun Ffermio Cynaliadwy Cymru a’i amcanion a deilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy.

Er bod tystiolaeth dda o’r buddion cynhyrchiant ac amgylcheddol y mae gwndwn llysieuol yn eu darparu - megis y rhai a amlinellwyd yn y prosiect Toolbox of Multi-Species Swards (TOMS) a ariannwyd gan yr UE - ceir llai o dystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd gwndwn  llysieuol o ran: a) adfywio porfa rhygwellt parhaol a fu’n ddibynnol ar wrtaith nitrogen yn y gorffennol, a b) drilio uniongyrchol fel ffordd o sefydlu gwndwn llysieuol gan amharu cyn lleied â phosibl ar y tir. Rydym yn dymuno archwilio’r cyfleoedd hyn yng nghyd-destun ffermio llaeth ar yr ucheldir.

Diben y gwaith: nodau/amcanion

Nod y prosiect oedd archwilio effeithiolrwydd drilio gwndwn llysieuol yn uniongyrchol yn hytrach na defnyddio gwrtaith nitrogen i adfywio porfeydd rhygwellt parhaol, gan barhau i gynnal cynhyrchiant. Fe wnaethom ni sefydlu pedair llain arbrofi: tri gwahanol gymysgedd o wndwn llysieuol wedi’u drilio’n uniongyrchol mewn porfa o rygwellt parhaol, ac un borfa rhygwellt parhaol pur fel llain reoli.

Dyluniwyd y lleiniau arbrofi gyda’r nodweddion canlynol:

Cae Mawr – gwndwn llawn codlysiau a pherlysiau: Defnyddiwyd y llain hon ar gyfer porfa i wartheg llaeth, gyda ffocws ar blanhigion sy’n sefydlogi nitrogen ac yn gwreiddio’n ddwfn.

Cae Ffordd – gwair ac amrywiaeth: Defnyddiwyd y llain ar gyfer gwair/gwywair, gyda ffocws ar berlysiau, blodau gwyllt a nifer o rywogaethau glaswellt.

Cae Dan Helm – porfa ar gyfer geifr/anthelminitig: Defnyddiwyd y llain hon ar gyfer porfa ar gyfer geifr, gan ganolbwyntio ar blanhigion gyda nodweddion anthelminitig. 

Rhif ac enw’r llain

Maint (Ha) 

Triniaeth 

Cae Mawr       

1

Gwndwn llawn codlysiau a pherlysiau

Cae Ffordd      

2

Gwair ac amrywiaeth

Cae Dan Helm

0.5

Porfa ar gyfer geifr/anthelminitig

Llain reoli 

1

Dim triniaeth   

Fe wnaethom ni fesur nifer o ddeilliannau cyn ac ar ôl sefydlu’r gwndwn llysieuol i bennu eu heffeithiolrwydd. Yn benodol, fe wnaethom ni fesur: 1) strwythur y pridd. B) pH y pridd, a c) deunydd organig y pridd (SOM%). Rydym yn anelu at rannu canlyniadau’r arbrawf gyda ffermwyr eraill mewn cyd-destunau tebyg a byddwn yn defnyddio’r canfyddiadau ein hunain i lywio gweithgareddau’r dyfodol ar ein fferm.

Yr hyn a wnaed: methodoleg 

Nodi’r lleiniau arbrofi (Hydref 2023). Fe wnaethom ni nodi pedair llain un hectar er mwyn sefydlu tri gwahanol fath o gymysgedd gwndwn llysieuol wedi’u drilio’n uniongyrchol i borfa rhygwellt parhaol (gweler isod), ac un borfa rhygwellt parhaol pur fel llain reoli. Fe wnaethom ni sicrhau nad oedd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol rhwng y lleiniau e.e. o ran y math o bridd, rhywogaethau glaswellt, topograffeg ac ati, ac fe wnaethom ni gofnodi unrhyw wahaniaethau penodol a allai achosi dryswch.

Pennu’r cymysgeddau gwndwn llysieuol (Hydref 2023). Fe wnaethom ni ymgynghori gydag ymgynghorydd o gwmni Cotswolds Seeds i bennu tri gwahanol fath o gymysgedd gwndwn llysieuol i gael eu drilio’n uniongyrchol i’r borfa rhygwellt parhaol: 1) Cymysgedd llawn codlysiau a pherlysiau ar gyfer porfa i wartheg llaeth, gyda ffocws ar blanhigion sy’n sefydlogi nitrogen ac yn gwreiddio’n ddwfn; 2) Cymysgedd gwndwn gwair ac amrywiaeth a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu gwair/gwywair, gyda ffocws ar berlysiau, blodau gwyllt a nifer o rywogaethau glaswellt; 3) Cymysgedd pori anthelminitig/iechyd a ddefnyddir fel porfa ar gyfer geifr, gyda ffocws ar blanhigion gyda nodweddion anthelminitig. 

Mesurau Rhagarweiniol (Hydref 2023). Cyn sefydlu’r cymysgedd hadau gwndwn llysieuol, fe wnaethom ni fesur y lleiniau arbrofi i asesu strwythur y pridd (VESS – Gwerthusiad Gweledol o Strwythur y Pridd – a chyfrif pryfed genwair, pH y pridd a deunydd organig. Ochr yn ochr ag arsylwadau cynhyrchiant, ailadroddwyd y mesuriadau hyn unwaith eto ar ddiwedd yr arbrawf i archwilio effeithiolrwydd gwahanol gymysgeddau gwndwn llysieuol o’i gymharu â’r llain reoli. Fe wnaethom ni ddefnyddio geotag wrth gofnodi lleoliadau’r samplau pridd yn y caeau fel bod modd casglu samplau pridd o’r un lleoliadau ar ddiwedd yr arbrawf.

Sefydlu gwndwn llysieuol drwy ddrilio’n uniongyrchol (Gwanwyn 2024). Ar gyfer pob llain, fe wnaethom ni sicrhau bod y borfa bresennol yn cael ei phori neu ei thorri mor dynn â phosibl cyn hau fel nad oedd yn cystadlu’n ormodol gyda’r egin blanhigion. Fe wnaethom ni hefyd sicrhau bod y tir yn gynnes heb fod yn rhy sych, a bod yr hadau’n cael eu drilio’n fas, gan ddefnyddio dril hadau glaswellt arbenigol (o’i gymharu â dril hadau grawn, a allai ddrilio’n rhy ddwfn). Ar ôl drilio’r cymysgeddau gwndwn llysieuol ar ein lleiniau, bu’r da byw’n pori’r borfa bresennol, ond cawsant eu symud ar ôl 4-5 diwrnod i atal difrod i’r egin blanhigion newydd. Fe wnaethom eu hail-gyflwyno i bori’n ysgafn ar ôl 6-8 wythnos i gadw’r borfa bresennol i lawr, gan fod yn ofalus unwaith eto i beidio â difrodi egin blanhigion. 

Mesurau Dilynol (Hydref 2024). Ar ddiwedd y tymor tyfu, fe wnaethom ni ail-fesur y lleiniau arbrofol gan edrych ar strwythur y pridd, pH a deunydd organig, 12 mis ar ôl cyflawni’r mesurau rhagarweiniol ar ddechrau’r prosiect.

Canlyniadau a Gwerthusiad (Gaeaf 2024). Gan ddefnyddio canlyniadau’r arbrawf, fe wnaethom ni werthuso effaith y gwahanol gymysgeddau gwndwn llysieuol ar gynhyrchiant, iechyd y pridd, a buddion eraill arfaethedig o safbwynt amgylcheddol ac iechyd anifeiliaid. 

Deilliannau: canlyniadau 

VESS (Gwerthusiad Gweledol o Strwythur y Pridd)

Llain a haen 

Lleoliad (wedi’i geotagio gan ddefnyddio Google Maps)

Sgôr Ansawdd Strwythur – Cyn y driniaeth

Sgôr Ansawdd Strwythur – Ar ôl y driniaeth

Llain 1 – haen uchaf

52.5612002, -3.8002496

2

2

Llain 1 – haen isaf

52.5612002, -3.8002496

2

2

Llain 2 – haen uchaf

52.5687670, -3.8023689

2

2

Llain 2 – haen isaf

52.5687670, -3.8023689

2

2

Llain 3 – haen uchaf

52.5684664, -3.8003261

2

2

Llain 3 – haen isaf

52.5684664, -3.8003261

2

2

Rheoli – haen uchaf

52.5671342, -3.8010985

2

2

Rheoli – haen isaf

52.5671342, -3.8010985

2

2

Cyfrif pryfed genwair

Llain

Lleoliad 

Nifer y pryfed genwair yn y sampl – Cyn y driniaeth

Nifer y pryfed genwair yn y sampl – Ar ôl y driniaeth

Newid yn nifer y pryfed genwair

Llain 1 

52.5612002, -3.8002496

13

11

-2

Llain 2 

52.5687670, -3.8023689

13

15

+2

Llain 3 

52.5684664, -3.8003261

2

3

+1

Llain reoli

52.5671342, -3.8010985

6

6

0

 

Cywasgiad

Llain

Dyfnder lle’r oedd cywasgiad yn cynyddu  o 1 (o <100 PSI i 100-200 PSI) cyn y driniaeth 

Dyfnder lle’r oedd cywasgiad yn cynyddu  o 1 (o <100 PSI i 100-200 PSI) ar ôl y driniaeth

Newid yn nyfnder cywasgiad

Llain 1 

25cm

25cm

0

Llain 2 

40cm 

40cm 

Llain 3 

25cm

25cm

0

Llain reoli

50cm

50cm

0

Ni welwyd unrhyw newid sylweddol yn y gwerthusiad gweledol o strwythur y pridd (VESS), nifer y pryfed genwair a chywasgiad yn ystod yr arbrawf. Fodd bynnag, gellir disgwyl hyn gyda chyfnod byr yr arbrawf. 

pH y Pridd

Llain

pH – Cyn y driniaeth

pH – Ar ôl y driniaeth

Newid mewn pH 

Llain 1 

5.61

5.72

-0.11 

Llain 2 

5.5

5.4

+0.1 

Llain 3 

5.58

5.61

-0.03 

Llain reoli

5.53

5.35

+0.18 

Ar bob un o’r lleiniau cyn y driniaeth, roedd y pH yn is na’r lefelau delfrydol - rhwng 5.5-5.99. Roeddem ni eisiau archwilio a fyddai hau gwndwn llysieuol yn cynyddu pH heb orfod gwasgaru calch ar y pridd. Cawsom ganlyniadau cymysg. Er bod y pH wedi cynyddu ar ddwy o’r lleiniau (Llain 1 a 1), gostyngodd y pH ar un llain (Llain 2 – Cae Ffordd) i fod o dan 5.5. 

Gwelsom leihad tebyg yn y llain reoli, sy’n awgrymu bod y gostyngiad wedi digwydd o ganlyniad i barhau i ddefnyddio glaswelltir heb fioamrywiaeth ar gyfer pori. Mae’n bosibl bod hau gwndwn llysieuol ar Leiniau 1 a 3 wedi helpu i wyrdroi’r tueddiad hwn.

Deunydd Organig y Pridd

Llain

Deunydd organig y pridd (%) – Cyn y driniaeth 

Deunydd organig y pridd (%) – Ar ôl y driniaeth

Newidiadau yn Neunydd Organig y Pridd (%)

Llain 1 

15.35

14.5

-0.85 

Llain 2 

9.17

10.9

+1.73 

Llain 3 

10.53

10.5

-0.03 

Llain reoli

10.01

10.2

+0.19

 

Roedd canran y deunydd sych yn uchel ar draws y pedair llain, cyn ac ar ôl y driniaeth. Gwelwyd y newid mwyaf arwyddocaol yn ystod yr arbrawf ar Lain 2 (Cae Ffordd), gan gynyddu o 9.17% i 10.9%. Fodd bynnag, mae’n annhebygol y byddai’r gwndwn llysieuol wedi achosi newidiadau arwyddocaol mewn deunydd organig y pridd dros gyfnod byr yr arbrawf. 

Gwerthusiad

Yn gyffredinol, fe wnaeth y tywydd a ffactorau logisteg effeithio’n negyddol ar yr arbrawf. Roedd y tywydd anarferol o wlyb ym mis Ebrill a Mai yn golygu na chafodd y cymysgeddau gwndwn llysieuol eu drilio’n uniongyrchol tan fis Mehefin. Er bod y borfa wedi’i thocio a’i phori’n dynn cyn drilio’n uniongyrchol, roedd y borfa rhygwellt yn dal i berfformio’n llawer gwell na’r cymysgeddau gwndwn llysieuol.

Pe byddai’r arbrawf yn cael ei ailadrodd, byddai’r cymysgeddau gwndwn llysieuol yn cael eu drilio’n uniongyrchol ar ddechrau mis Ebrill. Fel arall, pe byddai’r tywydd ar gyfer hau yn digwydd yn hwyrach, byddem naill ai’n defnyddio aradr a/neu og ar y caeau cyn drilio. 

Fodd bynnag, fe wnaethom ni lwyddo i sefydlu’r cymysgeddau gwndwn llysieuol ar bob un o’r tair llain ac rydym yn disgwyl gweld sefydliad pellach dros y blynyddoedd nesaf (wrth i’r hadau yn y pridd gael eu symud wrth bori anifeiliaid). Rydym hefyd yn disgwyl bod y gwndwn llysieuol sydd eisoes wedi sefydlu wedi darparu buddion o ran y pridd, y borfa ac iechyd anifeiliaid. Er enghraifft, dros gyfnod yr arbrawf, hanerodd y baich llyngyr yn y geifr o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. 

Yn ystod cyfnod byr yr arbrawf (un tymor pori), mae’n rhy gynnar i weld buddion arwyddocaol o ran iechyd y pridd a thwf y borfa. Fodd bynnag, mae hyn yn rhywbeth y byddem yn disgwyl ei weld dros y blynyddoedd nesaf, ac mae rhywfaint o arwyddion o welliant i’w gweld eisoes. Cynyddodd y deunydd organig ar un llain (Llain 2), gan aros yr un fath i bob pwrpas ar y llain reoli. Gwelwyd gwelliant o ran pH ar y ddwy lain arall (Llain 1 a 3), gan leihau rhywfaint ar y llain reoli. 

Mewn arbrofion yn y dyfodol, o ganlyniad i pH gwael y pridd, mae’n bosibl y byddwn yn ystyried gwasgaru calch cyn hau’r gwndwn llysieuol i weld a yw hynny’n effeithio’n sylweddol ar eu sefydliad. Efallai y byddem hefyd yn ystyried ychwanegu triniaeth fycorhisol i wella bioleg y pridd.