23 Ebrill 2025

Gwahoddir ffermwyr i gyfres o ddigwyddiadau ar y fferm – Her chwyn mewn glaswelltir: Strategaethau i Sicrhau Llwyddiant. Bydd y digwyddiadau hyn sy’n cael eu cynnal mewn 3 lleoliad ledled Cymru gyda Daniel Lievesley o DJL Agriculture, sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth agronomegydd cenedlaethol y flwyddyn 2025, yn edrych ar dechnegau ymarferol a datrysiadau hirdymor i sicrhau gwndwn iach a chynhyrchiol.

Ymunwch â Cyswllt Ffermio ar gyfer y digwyddiadau hyn i glywed mwy am bwysigrwydd asesu chwyn mewn glaswelltir, nodi rhywogaethau penodol a phennu pryd mae angen ymyrraeth.

Bydd defnyddio chwynladdwyr yn strategol, deall rôl hanfodol amseru ar gyfer yr effeithlonrwydd gorau posibl, a cyn lleied â phosibl o effaith amgylcheddol gan gynnwys potensial chwistrell newydd sy’n ddiogel ar gyfer meillion hefyd yn cael eu trafod.

Bydd y rhai sy’n bresennol hefyd yn darganfod y buddion ac amseriad priodol ar gyfer technegau rheoli chwyn gwahanol, ac yn dysgu am newidiadau rheoli allweddol i fynd i’r afael â ffactorau sylfaenol sy’n dylanwadu ar dwf chwyn ac i atal problemau yn y dyfodol.

Mae’r digwyddiadau hyn ar y fferm yn cynnig cyfle gwerthfawr i gael cyngor ymarferol ac i rwydweithio â ffermwyr eraill yn yr ardal.

Manylion y digwyddiadau:

Dydd Mercher, 7 Mai 2025, 16:00 - 18:00, Fferm Frowen, Login, SA34 0TP

Dydd Iau, 8 Mai 2025, 16:00 - 18:00, Penmaendyfi, Machynlleth, SY20 9LD 

Dydd Iau, 22 Mai 2025, 16:00 - 18:00, Plas Du, Croesoswallt, SY10 0BQ

I neilltuo lle ar y digwyddiadau hyn neu am ragor o wybodaeth, edrychwch ar wefan Cyswllt Ffermio

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer