Yn dilyn cyflwyno cais i roi cyflwyniad ar waith un o brosiectau Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yng Nghynhadledd Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain eleni, bu Non Williams, ein Swyddog Arbenigol Carbon draw yng Ngalway, Iwerddon yn y Gynhadledd rhwng 8 a 10 Ebrill.

Roedd dros 350 o bobl o 23 o wledydd gwahanol wedi mynychu’r gynhadledd eleni, ar y thema ‘Cefnogi Rôl Da Byw mewn Cymdeithas Fyd-eang’. O ganlyniad, cafodd Non dridiau llawn o rwydweithio gydag ymchwilwyr ac arbenigwyr ym myd Gwyddor Anifeiliaid.

Yn ystod prynhawn cyntaf y Gynhadledd, bu’n rhoi cyflwyniad ar waith prosiect Gwndwn Llysieuol Cymru Cyswllt Ffermio fel rhan o sesiwn Pori a Rheolaeth ar Borfa. Dyma brosiect cyfredol sydd wedi’i ddyblygu ar ambell fferm o fewn Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, sydd yn ymchwilio i effaith pori gwndwn llysieuol ar berfformiad ŵyn a thwf y borfa, ymysg priodweddau mesuradwy eraill. Braf oedd cael y cyfle i rannu canlyniadau’r flwyddyn gyntaf, trafod y cynlluniau ar gyfer tymor tyfu 2025 a derbyn cwestiynau ar y gwaith gan eraill a oedd yn gweithio yn yr un maes. Os o ddiddordeb, gellir dilyn datblygiadau’r prosiect yma.

Yn ystod y Gynhadledd, mynychodd Non sawl sesiwn diddorol, gan glywed am ymchwil ar systemau defaid yn seiliedig ar gynhyrchiant o borfa, technegau i leihau allyriadau nwyon tŷ-gwydr a pharasitiaid da-byw, i enwi rhai. Braf hefyd oedd clywed am sut y mae ymchwil yn cael ei fabwysiadu ar ffermydd yn Iwerddon drwy raglen gynghori arwyddbost Teagasc.

Ar brynhawn olaf y Gynhadledd, cafwyd ymweliad â fferm laeth yn Sir Galway i glywed am eu system laeth yn seiliedig ar borfa. Roedd Henry Walsh yn ffermwr ysbrydoledig - roedd ei ffocws ar ffrwythlondeb y fuches, ei feddylfryd pen agored a’i frwdfrydedd tuag at waith ymchwil y gellir ei roi ar waith ar ffermydd yn heintus.

Un neges bwysig ddaeth i’r wyneb sawl gwaith yn ystod y Gynhadledd oedd pwysigrwydd pontio gwaith ymchwil a’r diwydiant ar lawr gwlad. Does dim amheuaeth fod cael mewnwelediad i brosiectau ymchwil amrywiol, fel y cafodd Non yn y Gynhadledd, o fudd er mwyn nodi cyfleoedd i weithredu syniadau cyfredol a perthnasol o fewn Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio. Hefyd, gwnaethpwyd nifer o gysylltiadau newydd drwy rannu ystafell gyda chymaint o bobl wybodus yn y maes, a fydd o ddefnydd wrth ddatblygu prosiectau newydd ac edrych am gyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fy Nhaith gyda Chŵn Defaid Pentir
Helo, Glynne Jones ydw i, ac rwy’n ffermio ar gyrion Bangor yng
Blog Academi Amaeth #2 gan Anna Bowen
Ar adeg ysgrifennu, dim ond saith wythnos sydd ar ôl cyn sesiwn
Rhai Pethau I’w Hystyried Gan Y Mentor Iechyd A Diogelwch Ffermydd, Brian Rees
Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd dylai pob ffermwr fod yn